Mae Microsoft 365 yn gyfres o apiau a meddalwedd i'ch helpu chi gyda'ch gwaith coleg ac i gyfathrebu ag eraill. I ddechrau arni, ewch i wefan wefan Microsoft 365 a mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair yn y coleg.
Eich cyfeiriad e-bost yw eich rhif myfyriwr, ac wedyn @nptcgroup.ac.uk, e.e. 123456@nptcgroup.ac.uk
Gallwch ddefnyddio Microsoft 365 drwy eich porwr gwe ond hefyd gallwch lawrlwytho'r apiau i'ch dyfais ar gyfer mwy o ymarferoldeb. Gallwch hefyd redeg apiau Microsoft 365 ar ddyfeisiau symudol Android neu Apple.
Am ragor o wybodaeth am Microsoft 365 edrychwch ar y Guide to college systems.
OneDrive yw eich gofod storio ar y cwmwl ar-lein lle gallwch gadw eich gwaith coleg. Gallwch gael mynediad i'ch gwaith a'ch ffeiliau o unrhyw ddyfais os ydych wedi mewngofnodi i Microsoft 365 neu wedi lawrlwytho'r ap OneDrive.Gallwch rannu ffeiliau a ffolderi, sy'n ei gwneud yn hawdd gweithio ar brosiectau gydag eraill.
I gadw eich dogfennau ar-lein, mewngofnodwch i wefan Microsoft 365 gan ddefnyddio eich e-bost a'ch cyfrinair yn y coleg.
Am ragor o wybodaeth am OneDrive edrychwch ar y Guide to Microsoft OneDrive.
Mae eich e-bost fel myfyriwr ar gael drwy Outlook, lle gallwch reoli eich negeseuon e-bost, eich calendr a chyfarfodydd Teams.
Edrychwch ar eich e-bost coleg yn rheolaidd am ohebiaeth bwysig gan staff y coleg.
Mewngofnodwch i Outlook gyda’ch cyfeiriad e-bost yn y coleg, e.e. 123456@nptcgroup.ac.uk a’ch cyfrinair.
Am ragor o wybodaeth am Outlook edrychwch ar y Email safety and security guide.
Gelwir y rhwydwaith Wi-Fi yng Ngrŵp NPTC yn eduroam, ac mae ar gael ym mhob un o'n colegau. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cysylltu'n awtomatig â'r Wi-Fi pryd bynnag y byddwch yn ymweld ag un o'n safleoedd.
Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y canllaw isod ar gyfer sefydlu'ch dyfais i gysylltu ag eduroam. Bydd angen eich cyfeiriad e-bost coleg a chyfrinair arnoch.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gysylltu ag eduroam, cysylltwch â Gwasanaethau TG: itservices@nptcgroup.ac.uk
Moodle yw Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADR) y coleg. Dyma lle byddwch yn dod o hyd i'ch deunyddiau, adnoddau a gweithgareddau cwrs ar-lein.
Mewngofnodwch i Moodle gan ddefnyddio eich rhif adnabod fel myfyriwr fel eich enw defnyddiwr, e.e. 123456 a'ch cyfrinair arferol yn y coleg. Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Moodle yn y Canllaw i Systemau’r Coleg.
Mae Microsoft Teams yn weithfan sy'n seiliedig ar sgyrsiau sy'n galluogi i chi gydweithio mewn grwpiau. Dyma lle gallwch ymuno â gwersi ar-lein, a chyfarfod a sgwrsio â'ch darlithwyr a'ch cydfyfyrwyr. Gallwch ddefnyddio'r holl brif apiau ac adnoddau Microsoft 365 yn Teams i'ch helpu i weithio'n fwy effeithlon, a rhannu ffeiliau fel dogfennau Word, Cyflwyniadau PowerPoint a fideos.
Am ragor o wybodaeth am Outlook edrychwch ar y Quick Guide to Microsoft Teams.
Byddwch yn cael eich ychwanegu'n awtomatig at Hysbysiad myfyriwr ar-lein NPTC. Bydd y Tîm yma’n eich helpu chi gyda’r canlynol: