Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau i'ch cefnogi yn ystod eich cyfnod yn y coleg gyda ni. Ochr yn ochr â'ch tiwtor personol, bydd gennych fynediad at Dîm Cymorth i Fyfyrwyr mawr, gan gynnwys hyfforddwyr Sgiliau Astudio, gwasanaeth cwnsela, ac arian a chyngor ariannol. Os oes arnoch angen cymorth gydag ymchwil neu sgiliau digidol, mae tîm y Llyfrgell wrth law i'ch cynorthwyo. Mae gennym hefyd Undeb Myfyrwyr gweithgar, ar gyfer myfyrwyr ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr. Gwnewch y gorau o'ch amser yn y coleg drwy gymryd rhan a bod yn rhan o gymuned gynhwysol a chyfeillgar.
Mae'r llyfrgelloedd yn rhoi mynediad i chi at yr holl adnoddau sydd arnoch eu hangen ar gyfer eich astudiaethau.
Yn ogystal â benthyca llyfrau i'w defnyddio gartref, mae gennych fynediad at wybodaeth ac e-lyfrau o ansawdd uchel o'r llyfrgell ar-lein ar Moodle. Gallwch ddechrau darllen e-lyfrau a defnyddio adnoddau ar unwaith.
Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich rhif adnabod yn y coleg a'ch cyfrinair.
Os ydych chi eisiau dechrau da i'ch astudiaethau, edrychwch ar ein canllawiau pwnc a'n taflenni ffeithiau.
Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Prif Switsfyrddau Grŵp Colegau NPTC: 03308 188100
Derbyniadau: 03308 188100, opsiwn 1
Cymorth i Fyfyrwyr (gan gynnwys cyngor EMA/WGLG): 03308 188100, opsiwn 2
Ar y campws, mae staff Cymorth i Fyfyrwyr wedi'u lleoli yn y Parthau Myfyrwyr lle gall pob myfyriwr dderbyn help, cyngor a chefnogaeth. Mae’r staff yn y Parth Myfyrwyr yn darparu llawer o wasanaethau cymorth sy'n sail i'ch taith ddysgu, gan gynnwys y canlynol:
Gellir cysylltu â’r staff ar e-bost hefyd: studentsupport@nptcgroup.ac.uk
I gael gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael drwy'r coleg a thu hwnt, edrychwch ar yr arweiniad ar gymorth ariannol hwn.
Gall ein Tîm Lles eich helpu i ymgartrefu yn y coleg pan fyddwch yn fyfyriwr newydd ac yn ystod eich amser gyda ni. Pan ddaw'r amser, gallant hefyd eich helpu i symud ymlaen y tu hwnt i Grŵp Colegau NPTC i astudiaeth bellach neu gyflogaeth.
I gysylltu ag e-bost y tîm: wellbeing@nptcgroup.ac.uk