Pan fyddwch wedi cofrestru ar gwrs gyda Grŵp Colegau NPTC byddwch yn derbyn rhif adnabod myfyriwr unigryw a chyfrinair. Byddwch yn defnyddio'r rhain i fewngofnodi i holl systemau ac adnoddau'r coleg.
Enw defnyddiwr: Bydd gwahanol systemau yn gofyn i chi roi eich enw defnyddiwr mewn un o ddwy ffordd, naill ai:
Cyfrinair: Bydd eich cyfrinair cyntaf yn cynnwys eich rhif myfyriwr a chod post eich cartref (gan ddefnyddio prif lythrennau), e.e. 123456SA107RF.
System | Fformat enw defnyddiwr |
Wi-Fi | 123456@nptcgroup.ac.uk |
Teams | 123456@nptcgroup.ac.uk |
Ebost Outlook | 123456@nptcgroup.ac.uk |
OneDrive | 123456@nptcgroup.ac.uk |
Learner Hub | 123456@nptcgroup.ac.uk |
Moodle | 123456 |
Am ragor o wybodaeth am systemau coleg edrychwch ar y Guide to college systems.
Cyn gynted ag y bydd eich cyfrif coleg yn fyw, dylech newid eich cyfrinair i rywbeth sy'n fwy diogel.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Microsoft yn y coleg gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost yn y coleg, e.e. 123456@nptcgroup.ac.uk a’r cyfrinair.
Ewch i'r gosodiadau a dewiswch 'Newid eich cyfrinair'.
Ar y dudalen Newid eich cyfrinair, rhowch eich cyfrinair cyfredol ac wedyn rhowch eich cyfrinair newydd a phwyso ‘Cadw’.
Eich cyfeiriad e-bost yw eich rhif myfyriwr, ac wedyn @nptcgroup.ac.uk, e.e. 123456@nptcgroup.ac.uk
Os nad ydych yn cofio eich cyfrinair neu os ydych wedi rhoi cynnig ar eich cyfrinair ormod o weithiau ac wedi cloi eich cyfrif, gallwch ei ailosod.
O'r sgrin ‘Nodwch y cyfrinair’, dewiswch 'Wedi anghofio fy nghyfrinair' a dilyn y cyfarwyddiadau.
Os ydych chi'n cael anhawster mewngofnodi ac angen help gydag ailosod eich cyfrinair, gallwch e-bostio: itservices@nptcgroup.ac.uk a gofyn iddynt ailosod y cyfrinair ar eich cyfer.
Mae’r staff Gwasanaethau TG ar gael rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch hefyd fynd i’r llyfrgell i ail-osod eich cyfinair.
Peidiwch ag anghofio eich cerdyn adnabod fel myfyriwr! Ni fydd modd i staff ailosod eich cyfrinair os nad yw eich cerdyn Adnabod diweddar wrth law.