Bydd arnoch angen dyfais TG sy’n barod ar gyfer Wi-Fi i wneud nodiadau yn y dosbarth, creu a chyflwyno aseiniadau, ymchwilio ar-lein, ymuno â gwersi ar-lein a chyfathrebu â'ch athrawon a'ch cydfyfyrwyr.
Mae'r math o ddyfais yn dibynnu ar y feddalwedd/apiau y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer eich cwrs dewisol. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch am gyngor gan gydlynydd eich cwrs cyn prynu dyfais. Rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn dibynnu ar ffôn symudol. Bydd angen i chi greu ffeiliau a/neu ddarllen dogfennau mawr, sy'n anodd iawn ar sgrin fach iawn.
Yn ogystal â chyfrifiadur personol, gliniadur neu Chromebook, bydd arnoch angen gwe-gamera, meicroffon a seinyddion (wedi'u hadeiladu’n fewnol yn iawn) neu glustffonau sy'n cyd-fynd â'ch dyfais.
Prynu dyfais
Gellir prynu dyfeisiau addas gan fanwerthwyr ar y stryd fawr ac ar-lein fel Currys PC World, Amazon, Argos neu AO. Bydd y gwneuthuriad a'r model fyddwch yn ei brynu yn dibynnu ar eich dewis personol a'ch cyllideb.
Diogelu'ch dyfais
I gael awgrymiadau ar ddiogelu eich dyfais a data digidol, yn ogystal ag aros yn ddiogel ar-lein, edrychwch ar ein Canllaw Cyfrifoldeb Digidol.
Os nad oes gennych chi ddyfais ddigidol eisoes, fel gliniadur neu chrome book sy'n addas at ddibenion addysgol, ac os nad ydych yn gallu prynu un, efallai y byddwch yn gymwys i fenthyca offer gan y Coleg drwy gydol eich cwrs.
Mae rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd â'r angen mwyaf, er enghraifft y rhai sydd yng Ngofal yr Awdurdod Lleol, y rhai sy'n Gadael Gofal, Gofalwyr, Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr, neu sydd ag Angen Dysgu Ychwanegol, sy'n gymwys i gael LCA/GDLlC ac sydd wedi gwneud cais am Gyllid Ariannol Wrth Gefn y Coleg.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drafod eich cymhwysedd i gael cymorth drwy'r Cynllun Benthyciadau Digidol, anfonwch e-bost i digitalloans@nptcgroup.ac.uk
Bydd y ceisiadau i fenthyca dyfais yn agor ym mis Medi 2024.