Skip to Main Content

Paratoi ar gyfer coleg 2024 - 25: 01. Dechrau yn y coleg

Dechrau yn y coleg

Image of the reception area of an NPTC college, with lots of students sitting down and walking around.

Croeso i Grŵp Colegau NPTC

Mae llawer o wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i ddechrau yn y coleg, a bydd y canllaw yma’n eich helpu i ddechrau arni. Edrychwch ar ein rhestr wirio ddefnyddiol i sicrhau eich bod wedi rhoi sylw i bopeth.

This guide is also available in English

Dyddiadau tymhorau 2023 - 2024

Tymor yr Hydref
02/09/2024 – 18/12/2024
Cyflwyno o bell/ar-lein
16/12/2024 - 18/12/2024
Hanner Tymor
28/10/2024 – 01/11/2024
Tymor y Gwanwyn
06/01/2025 – 11/04/2025
Hanner Tymor
24/02/2025 – 28/02/2025
Tymor y Haf
28/04/2025 – 02/07/2025
Hanner Tymor
26/05/2025 – 30/05/2025

Rhest wirio

Rhestr wirio i ymbaratoi ar gyfer y coleg. Mae gen i fy nyfais fy hun neu rwy’n gyfarwydd â’r cynllun Benthyciadau Digidol. Mewngofnodi i’m cyfrif Microsoft 365. Ailosod fy nghyfrinair. Gosod cymwysiadau Microsoft ar fy nyfais. Lawrlwytho cymwysiadau i’m ffôn symudol. Mewngofnodi i Teams. Mewngofnodi i Moodle. Edrych ar yr Hysbysfwrdd i Fyfyrwyr yn Teams.

Cerdyn Adnabod Myfyriwr

Delwedd o gerdyn adnabod coleg. Mae’n ofynnol i bob myfyriwr a staff. Gwisgwch Gerdyn Adnabod y Coleg a Lanyard. Mae rhesymau diogelwch yn gofyn am brawf adnabod gweladwy bob amser.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr a staff wisgo cardiau adnabod bob amser. 

Byddwch wedi cael eich cerdyn ID pan wnaethoch ymrestru. Mae'n bwysig eich bod yn ei wisgo bob amser ar safle'r coleg fel ein bod yn gwybod eich bod yn fyfyriwr ac yn cael bod yn y coleg. 

Mae eich cerdyn myfyriwr hefyd yn allwedd sy'n rhoi mynediad i chi i rai adeiladau. Rhaid i chi gofio'ch cerdyn bob amser i gael mynediad i'r coleg.

Bydd angen eich cerdyn myfyriwr arnoch hefyd i ddefnyddio’r argraffwyr a'r llungopïwyr, benthyca llyfrau o’r llyfrgell a derbyn ciniawau am ddim os ydych yn gymwys ar gyfer hynny (ac i gael eich gostyngiadau myfyrwyr!)

Os na wnaethoch dderbyn cerdyn pan wnaethoch ymrestru, rhaid i chi fynd i'r llyfrgell i gasglu un ar eich diwrnod cyntaf yn y coleg. 

Os ydych yn anghofio eich cerdyn, mae rhaid i chi fynd i’r Dderbynfa i gasglu sticer Adnabod dros dro.

Gofalwch am eich cerdyn. Mae tâl o £5 am gardiau newydd yn lle rhai sy'n cael eu colli.   

Canllawiau eraill a fydd yn eich helpu i fod yn barod

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF