Skip to Main Content

Paratoi ar gyfer coleg 2024 - 25: 02. Eich diwrnod cyntaf yn y coleg

Eich diwrnod cyntaf

Mae'n debyg eich bod yn teimlo'n nerfus ac yn gyffrous am eich diwrnod cyntaf yn y coleg. Peidiwch â phoeni, mae pawb arallAn image of a group of students walking along a street, viewed from behind. yn teimlo’r un fath hefyd! Bydd digon o staff cyfeillgar a llysgenhadon myfyrwyr wrth law i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch y coleg.

Anfonir gwybodaeth atoch chi’n dweud wrthych ble i fynd ar eich diwrnod cyntaf. Os nad ydych wedi derbyn yr wybodaeth cyn dechrau'r tymor, anfonwch e-bost at: studentsupport@nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch ni ar (03308) 188100

Mae’r dyddiau cyntaf yn cael eu treulio yn eich croesawu i'r coleg. Byddwch yn cael cwrdd â'ch darlithwyr a'ch cydfyfyrwyr, mynd ar daith o amgylch y coleg, a darganfod y pethau pwysig, fel sut i gysylltu â'r wi-fi a ble i gael coffi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau tra byddwch yn y coleg, siaradwch â'ch tiwtor, neu gofynnwch yn y Dderbynfa, y Parth Myfyrwyr neu'r Llyfrgell.

Teithio i'r Coleg

Mae gwefan y coleg yn cynnwys gwybodaeth am deithio i'r coleg, gan gynnwys y llwybrau bws i'r gwahanol gampysau a sut i brynu'ch tocyn bws.

Gwefan Grŵp NPTC: Cyllid a Chludiant Myfyrwyr

Os ydych yn derbyn cymorth ariannol fel LCA, GDLlC neu’r gronfa caledi, byddwch yn cael cludiant am ddim i’r coleg. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â studentsupport@nptcgroup.ac.uk

Mae lleoedd parcio cyfyngedig ar gael ar bob campws yn rhad ac am ddim, ac eithrio yn Y Gaer yn Aberhonddu. 

Sylwer: Rhaid i bob gyrrwr gydymffurfio â’r cyfyngiadau gyrru a pharcio sydd ar waith o fewn/o gwmpas y campysau. Nid yw Grŵp Colegau NPTC yn derbyn cyfrifoldeb am gerbydau na’u cynnwys. Mae pob cerbyd yn cael ei barcio ar risg y perchennog.

Cysylltu â'r wi-fi

Eduroam wifi logo

Gelwir y rhwydwaith Wi-Fi yng Ngrŵp NPTC yn eduroam, ac mae ar gael ym mhob un o'n colegau. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cysylltu'n awtomatig â'r Wi-Fi pryd bynnag y byddwch yn ymweld ag un o'n safleoedd. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y canllaw isod ar gyfer sefydlu'ch dyfais i gysylltu ag eduroam. Bydd angen eich cyfeiriad e-bost coleg a chyfrinair arnoch.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gysylltu ag eduroam, cysylltwch â Gwasanaethau TG:  itservices@nptcgroup.ac.uk

Bwyd a Diod

A drawing of an NPTC branded coffee cup. Mae amrywiaeth eang o brydau bwyd, byrbrydau a diodydd ar gael yn y Coleg o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r rhain ar gael yn y Ffreutur ar bob safle. Mae opsiynau llysieuol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i staff y ffreutur os oes gennych unrhyw alergeddau. 

Gellir prynu bwyd gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn. Gallwch hefyd ddod â'ch cinio eich hun neu brynu bwyd oddi ar y safle. 

Bydd rhai myfyrwyr yn gymwys i dderbyn prydau am ddim, ond ni fydd hyn yn ei le erbyn yr wythnos gyntaf, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â chinio neu'n gallu prynu cinio i ddechrau. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn myfyriwr i dderbyn eich ciniawau am ddim. 

Ysmygu

An icon indicating that no smoking or vaping is allowed. Mae gan y coleg bolisi dim ysmygu ar gyfer holl adeiladau a thiroedd NPTC. Mae hyn yn cynnwys sigaréts electronig ac anwedd.

Beth i'w wisgo

An image of four college students standing together. Yn gyffredinol nid oes gwisg na chod gwisg ar gyfer mynychu'r coleg, fodd bynnag disgwylir i chi wisgo mewn ffordd nad yw'n tramgwyddo eraill.

Mae angen i chi wisgo dillad priodol ar gyfer eich cwrs. Gall hyn fod yn ofyniad iechyd a diogelwch ar gyfer rhai cyrsiau, a bydd eich tiwtor yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr hyn a ddisgwylir. 

Efallai y bydd rhai cyrsiau fel Gwallt a Harddwch hefyd yn gofyn am brynu gwisg unffurf, a bydd eich tiwtoriaid yn rhoi gwybodaeth i chi am hyn. 

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF