Skip to Main Content

Cyfeirnodi: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn eich gwaith

Beth yw AI?

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cyfeirio at systemau ac adnoddau cyfrifiadurol sy'n gallu cyflawni tasgau sy'n dynwared deallusrwydd dynol, fel ysgrifennu testun, cynhyrchu delweddau a fideos, adnabod lleferydd a chyfieithu iaith.

Mae adnoddau AI yn cael eu hymgorffori fwyfwy yn yr holl becynnau meddalwedd rydym yn eu defnyddio, a byddwch yn defnyddio adnoddau AI yn eich addysg ac yn eich gweithle yn y dyfodol. Wrth i chi ddatblygu eich sgiliau digidol, mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod sut i ddefnyddio'r adnoddau AI hyn yn effeithiol ac yn foesegol, a heb effeithio'n negyddol ar eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth eich hun o'r pynciau rydych chi'n eu hastudio.

Pwysig: Peidiwch â chyflwyno unrhyw wybodaeth sensitif, gan gynnwys gwybodaeth bersonol neu gyfrinachol, i mewn i adnoddau AI.

Nod y dudalen hon yw eich arwain chi yng nghyswllt y canlynol:

  • sut i ddefnyddio adnoddau AI artiffisial yn gyfrifol ac yn foesegol
  • deall cyfyngiadau AI
  • sut i gydnabod y defnydd o adnoddau AI yn eich gwaith
  • deall pryd mae'n amhriodol defnyddio adnoddau AI cynhyrchiol ac osgoi camymddwyn academaid

Defnyddio adnoddau AI fel Chat GPT a Bard yn eich gwaith

Os ydych chi’n defnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial yn eich gwaith academaidd, darllenwch y canllawiau hyn ar sut i gydnabod a chyfeirio at ddefnydd o'r adnoddau hyn.

  • Gwiriwch gyda'ch tiwtor bob amser i ofyn a ganiateir cynnwys AI a gynhyrchir yn eich gwaith; gall amrywio rhwng pynciau a modiwlau
  • Ni ddylid defnyddio adnoddau AI i gynhyrchu asesiad cyfan neu ran o asesiad y byddwch yn ei gyflwyno'n ddiweddarach fel eich gwaith eich hun. Byddai hyn yn drosedd o dan Bolisi Camymddwyn Academaidd y Coleg
  • Ni ellir dibynnu ar adnoddau AI i gynhyrchu gwybodaeth fanwl gywir, a gallant gynhyrchu ymatebion sy'n cynnwys gwybodaeth anghywir, gwybodaeth wedi dyddio neu wybodaeth ragfarnllyd, felly mae'n bwysig eich bod yn gwerthuso'n feirniadol unrhyw gynnwys a gynhyrchir gan adnodd AI.
  • Gall adnoddau AI gynhyrchu cyfeiriadau ffug at lyfrau ac erthyglau, felly gwiriwch y ffynhonnell wreiddiol bob amser am fanwl gywirdeb cyn eu defnyddio.

Mae adnoddau AI yn newid yn gyflym iawn. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r canllaw hwn yn aml oherwydd gall ein cyngor ni newid wrth i’r adnoddau hyn ddatblygu.

Defnyddio AI i ddod o hyd i wybodaeth

Cyngor i'ch helpu chi i werthuso'n feirniadol pryd a sut i ddefnyddio ymatebion a gynhyrchir gan AI. (Newcastle University, 2023).

Defnydd o AI cynhyrchiol a’i gyfyngiadau

Darganfyddwch sut gall AI helpu eich dysgu a sicrhau dealltwriaeth lawnach o'r cyfyngiadau. (Newcastle University, 2023).

Sut i gyfeirio at adnoddau AI yn eich gwaith

Dyfynnu allbwn AI yn eich gwaith

Pan fyddwch yn defnyddio neu'n cyfeirio at wybodaeth sydd wedi’i chreu gan adnoddau AI fel ChatGPT neu Google Bard, rhaid i chi gydnabod hyn drwy ei ddyfynnu'n gywir. Gan mai dim ond i chi y mae'r wybodaeth a gynhyrchir gan yr adnoddau hyn ar gael, dylech ddyfynnu hwn fel cyfathrebiad personol.

Enghreifftiau o ddyfynnu yn y testun:
Pan ofynnwyd am ddiffiniad o arfer academaidd da, roedd ymateb ChatGPT OpenAI (2023) yn cynnwys “cwblhau gwaith academaidd yn foesegol, yn annibynnol ac yn onest”. Mae copi o’r ymateb hwn wedi’i gynnwys yn Atodiad 1.

NEU

Diffiniad o arfer academaidd da yw “cwblhau gwaith academaidd yn foesegol, yn annibynnol ac yn onest” (ChatGPT OpenAI, 2023). Mae copi o’r ymateb hwn wedi’i gynnwys yn Atodiad 1.

 

Mae'n arfer academaidd da cadw copi o'r trawsgrifiad o'ch cwestiynau a'ch ymatebion o'r adnodd AI cynhyrchiol. Gall hwn fod yn sgrinlun, gan gadw ffeil y dudalen we neu drwy gopïo a gludo’r cwestiwn a’r allbwn i ddogfen ar wahân. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofnodi'r dyddiad y gwnaethoch chi ddefnyddio'r adnodd, yr awgrymiadau y gwnaethoch eu defnyddio (beth wnaethoch chi ofyn iddo ei wneud), a'r adnodd y gwnaethoch ei ddefnyddio. Efallai y bydd eich tiwtor yn gofyn i chi gynnwys y trawsgrifiadau hyn fel atodiad yn eich gwaith.

Llyfryddiaeth/ Rhestr Gyfeirio (arddull Harvard)

Yr wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys wrth gyfeirio:

  • Enw'r adnodd awduro AI cynhyrchiol
  • (Blwyddyn)
  • Ymateb ‘Enw’r adnodd awduro AI  ‘Enw’r person yn cyflwyno’r ymholiad’
  • Y diwrnod a’r mis pryd cynhyrchwyd y cynnwys  
Enghraifft:

ChatGPT OpenAI (2023) Ymateb ChatGPT i Sian Williams, 10 Gorffennaf.

Cydnabod eich defnydd o adnoddau AI yn eich gwaith

Defnyddio adnoddau AI i gynhyrchu cynnwys

Defnyddiwch y gosodiad mwyaf priodol

Rwy’n cydnabod defnyddio ChatGPT https://chat.openai.com/ (neu enw adnodd a’r ddolen AI arall) i gynhyrchu deunyddiau ar gyfer ymchwil cefndirol ac astudiaeth annibynnol, fodd bynnag, fy ngwaith i yw’r ysgrifennu ac nid oes unrhyw gynnwys a gynhyrchwyd gan AI wedi cael ei gyflwyno fel fy ngwaith fy hun.

NEU

Rwy’n cydnabod y defnydd o ChatGPT https://chat.openai.com/ (neu enw’r adnodd a’r ddolen AI) i gynhyrchu deunyddiau yr wyf wedi’u haddasu i’w cynnwys yn fy asesiad terfynol, fodd bynnag, fy ngwaith fy hun yw’r ysgrifennu ac nid oes unrhyw gynnwys a gynhyrchwyd gan AI wedi cael ei gyflwyno fel fy ngwaith fy hun.

 

Defnyddio adnoddau AI i wella eich gramadeg neu fireinio eich ysgrifennu

Rwy’n cydnabod y defnydd o ChatGPT https://chat.openai.com/ (neu enw’r adnodd a’r ddolen AI) i wella fy ngramadeg / mireinio fy ysgrifennu yn fy asesiad, fodd bynnag, fy ngwaith i yw’r ysgrifennu ac nid oes unrhyw gynnwys a gynhyrchwyd gan AI wedi cael ei gyflwyno fel fy ngwaith fy hun.
NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF