Pan fyddwch yn cyfeirnodi at waith neu syniadau rhywun arall yn eich aseiniad rhaid i chi ddangos o ble y daeth. Dyfyniad mewn testun yw hwn, ac mae'n rhoi manylion cryno am y gwaith rydych chi’n cyfeirnodi ato.
Mae arddull cyfeirnodi Harvard yn cynnwys
Mae dyfyniad uniongyrchol yn defnyddio union eiriau rhywun arall yn eich aseiniad, a dylai fod yn berthnasol i'ch dadl. Gall gormod o ddyfyniadau amharu ar lif ac arddull eich dull chi o ysgrifennu; byddai'n well gan eich tiwtor i chi ddehongli'r wybodaeth yn eich geiriau eich hun gan fod hynny'n dangos eich bod wedi deall y dystiolaeth.
Pan fyddwch yn aralleirio, rydych chi’n cymryd geiriau rhywun arall ac yn eu haddasu fel eich geiriau eich hun. Dyma ffordd arall o gyfeirnodi at syniadau neu ddadleuon awdur heb ddefnyddio dyfyniadau uniongyrchol. Bydd eich aseiniad yn darllen yn fwy naturiol ac yn eich arddull ysgrifennu eich hun, ac yn dangos eich bod yn deall yr hyn y mae'r awdur yn ei ddweud. Rhaid i chi ddyfynnu a cyfeirnodi at eich ffynhonnell wybodaeth o hyd.
Pan fyddwch yn crynhoi rydych yn darparu trosolwg neu ddatganiad byr o brif bwyntiau erthygl, pennod, llyfr neu dudalen we. Byddwch bob amser yn ysgrifennu crynodeb yn eich geiriau eich hun ac yn cynnwys prif gysyniad yr awdur. Mae'n wahanol i aralleirio gan eich bod yn hepgor gwybodaeth fanwl. Os ydych chi’n crynhoi'r prif syniad nid oes angen i chi gynnwys rhif tudalen yn eich dyfyniad yn y testun, dim ond enw'r awdur a’r flwyddyn cyhoeddi.
Mae rhai awduron yn dyfynnu neu'n cyfeirnodi at waith pobl eraill a gelwir hyn yn gyfeirnodi eilaidd. Os ydych yn dymuno defnyddio'r wybodaeth hon, dylech geisio dod o hyd i'r ffynhonnell (gynradd) wreiddiol a dyfynnu o waith yr awdur gwreiddiol. Os yw'n anodd dod o hyd i'r ymchwil wreiddiol hon neu gael gafael arni, a'ch bod yn hyderus bod y ffynhonnell eilaidd yn ddibynadwy yna bydd eich dyfyniad mewn testun yn cynnwys y brif ffynhonnell a'r ddogfen y daethoch o hyd iddi. Ond, wrth lunio eich rhestr gyfeirnodi, dim ond y llyfr neu'r erthygl y gwnaethoch chi eu darllen, NID y ffynhonnell gynradd, y byddwch yn ei gynnwys.
Ar ddiwedd eich aseiniad, bydd angen i chi ddarparu rhestr gyflawn o'r holl ddyfyniadau rydych wedi’u defnyddio yn eich gwaith. Rhestr gyfeirnodi neu lyfryddiaeth yw hon, ac mae'r dyfyniadau'n cysylltu â manylion llawn yr wybodaeth rydych wedi'i defnyddio ar ddiwedd eich gwaith. Trefnir y rhestr yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw'r awdur, neu yn ôl teitl os nad oes awdur. Mae rhestr gyfeirnodi yn caniatáu i'r darllenydd ddod o hyd i'ch ffynhonnell wybodaeth wreiddiol.
Mae rhestr gyfeirnodi yn cynnwys yr holl wybodaeth y gwnaethoch ei defnyddio yn eich aseiniad.
Mae llyfryddiaeth yn cynnwys yr holl wybodaeth y gwnaethoch ei dyfynnu yn eich aseiniad ac unrhyw ffynonellau cefndirol ychwanegol y gallech fod wedi eu darllen ond nad ydynt yn cael eu defnyddio yn eich aseiniad.
Mae'r rhan fwyaf o diwtoriaid yn gofyn am restr gyfeirnodi ond os nad ydych yn siŵr pa un sydd ei hangen, gofynnwch iddynt egluro:
Cwblhewch y tiwtorial byr ar-lein hwn a grëwyd gan Wasanaethau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd i wella eich dealltwriaeth o lên-ladrad, pwysigrwydd cyfeirnodi a sut mae cyfeirnodi yn gweithio.