Mae ZoteroBib yn declyn cyfeirnodi sydd ar gael ar y we am ddim y gallwch ei ddefnyddio i greu dyfyniadau yn eich testunau a chyfeiriadau yn eich llyfryddiaeth.
Gallwch ddewis o filoedd o ddulliau cyfeirnodi, yn cynnwys Harvard Cite Them Right sef y prif ddull a ddefnyddir yn NPTC, yn ogystal â MHRA a Vancouver. Mae’n hawdd iawn ei ddefnyddio ac mae’n cyflawni llawer o’r gwaith caled wrth gyfeirnodi ar eich cyfer. Sut bynnag, fel yn achos unrhyw declyn cyfeirnodi awtomataidd, nid yw’n berffaith, a bydd angen i chi wirio pob cyfeiriad er mwyn sicrhau ei fod yn gywir. Mae modd i chi olygu cyfeiriadau yn hawdd os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau.
Gwyliwch y fideo byr hwn i weld sut i ddefnyddio ZoteroBib.