Skip to Main Content

Cyfeirnodi: Turnitin

Turnitin

Mae Turnitin yn wasanaeth paru testun sy'n gwirio'ch ysgrifennu am gamgymeriadau dyfynnu neu gopïo amhriodol. Nid yw Turnitin yn gwirio am lên-ladrad mewn darn o waith.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich papur, mae Turnitin yn ei gymharu â thestun yn ei gronfa ddata enfawr ac os oes achosion lle mae ysgrifennu myfyriwr yn debyg i un o'u ffynonellau, neu'n paru yn erbyn un ohonynt, bydd yn cael ei nodi yn yr adroddiad tebygrwydd i chi ei adolygu. Mae cronfa ddata Turnitin yn cynnwys biliynau o dudalennau gwe: cynnwys cyfredol ac archif o'r rhyngrwyd, ystorfa o weithiau y mae myfyrwyr wedi'u cyflwyno i Turnitin yn y gorffennol, a chasgliad o ddogfennau, sy'n cynnwys miloedd o gyfnodolion, cylchgronau a chyhoeddiadau.

Bydd Turnitin yn gwirio ac yn dychwelyd eich aseiniad, gan dynnu sylw at destun sy'n edrych fel pe bai wedi'i gopïo o'r we, cyfnodolion a ffynonellau eraill. Gwiriwch eich gwaith a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys dyfyniadau i'ch deunydd ffynhonnell a rhestr o gyfeiriadau.

Os oes angen help a chyngor arnoch ar sut i wneud hyn, gofynnwch i aelod o staff y llyfrgell.

  1. O fewn eich Team Dosbarth, llywiwch i'r tab Assignments, neu dewch o hyd i'r aseiniad o fewn sianel Team. 
  2. Agorwch yr aseiniad yr hoffech gyflwyno iddo.
  3. Symudwch i'r adran My work a dewis y botwm + Add work.
  4. Ychwanegwch y ffeiliau yr hoffech iddynt gael eu gwirio am debygrwydd. Bydd Turnitin yn cynhyrchu Adroddiad Tebygrwydd ar gyfer pob ffeil sy'n cael ei hychwanegu a'i chyflwyno. 

DS: Bydd Turnitin yn ceisio cynhyrchu adroddiad tebygrwydd ar gyfer unrhyw ffeil testun. Ymhlith y mathau o ffeiliau â gefnogir mae: Microsoft OneNote, Microsoft Word, Excel, PowerPoint, PostScript, PDF, HTML, .HWP, RTF, OpenOffice(ODT), WordPerfect, a thestun plaen.

Assignment submission box in Microsoft Teams

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5. Pan fyddwch chi'n hapus â'ch dewisiadau ffeiliau, defnyddiwch y botwm Turn in i gyflwyno'ch ffeiliau. Bydd hyn yn sicrhau eu bod ar gael i'ch hyfforddwr ac yn eu hanfon at Turnitin i gynhyrchu Adroddiad Tebygrwydd.

6. Os yw'r ffeil yn dangos fel 'Turnitin report pending...', mae'n golygu nad yw'ch hyfforddwr wedi ei gweld eto. Gallwch ddefnyddio'r linc Refresh i ofyn i Turnitin gynhyrchu'r adroddiad tebygrwydd ffeil nawr.

Mae Adroddiadau Tebygrwydd ar gael i'w hadolygu yn fuan ar ôl cyflwyno ffeil. Bydd Adroddiad Tebygrwydd unigol yn cael ei gynhyrchu ar gyfer pob ffeil a gyflwynwyd gennych ar gyfer eich aseiniad.

 

 

 

 

 

 

 

Bydd pob ffeil a gyflwynir yn dangos sgôr tebygrwydd, gyda'r canrannau â chod lliw fel hyn:

 

 

 

 

I weld rhagor o wybodaeth, cliciwch 'View Turnitin report'. Bydd hyn yn agor eich aseiniad mewn ffenestr we. Amlygir rhannau o'r testun y nodwyd eu bod yn debyg i ffynonellau eraill, a darperir gwybodaeth am y ffynonellau paru hyn yn y 'Trosolwg ffynhonnell' ar y dde. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gellir agor pob ffynhonnell baru i ddarparu rhagor o fanylion.  

Sources overview box in Teams Turnitin report

Cyflwyniadau uwchlwytho ffeil

Mae uwchlwytho ffeil yn caniatáu ichi gyflwyno'ch aseiniad trwy lwytho'r ffeil o'ch dyfais yn uniongyrchol.

 

 

 

1. Dewiswch Submit Paper o'r mewnflwch cyflwyno.

2. Rhowch deitl i'r cyflwyniad.

3. Llusgwch a gollyngwch eich ffeil i'r mewnflwch cyflwyno.

4. Gwiriwch eich manylion cyflwyno a dewiswch y botwm Add Submission.

 

 

 

 

 

 

 

 

Fel arall, dewiswch yr eicon uwchlwytho ffeil i ddewis y ffeil o'ch dyfais â llaw.

5. Dewiswch Upload File o'r ddewislen ar y chwith.

6. Dewiswch Choose File i ddod o hyd i'r ffeil ar eich dyfais.

7. Gwasgwch y botwm Upload this File i barhau.

8. Gwiriwch eich manylion cyflwyno a dewiswch y botwm Add Submission.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Unwaith y bydd yr uwchlwytho wedi'i gwblhau, gwnewch nodyn o'ch ID cyflwyno. Os na dderbyniwch ID cyflwyno, gwiriwch bod eich cyflwyniad wedi bod yn llwyddiannus cyn gadael Turnitin.

Gofynion o ran Ffeiliau

Mae Turnitin yn derbyn y mathau canlynol o ffeiliau i'w huwchlwytho i aseiniad:  

  • Microsoft Word® (.doc/.docx)
  • OpenOffice Text (.odt)
  • WordPerfect® (.wpd)
  • PostScript (.ps)
  • HTML
  • Hangul Word Processor file (.hwp)
  • Rich text format (.rtf)
  • Plain text (.txt)
  • Adobe® PDF
  • Microsoft PowerPoint® (.pptx, .ppt, .ppsx, and .pps)
  • Microsoft Excel® (.xls and .xlsx)

Ni chaiff maint y ffeil fod yn fwy na 40 MB. Gellir lleihau maint ffeiliau mwy o faint trwy dynnu cynnwys nad yw'n destun neu gellir cysylltu â'r hyfforddwr i ofyn am sawl aseiniad i gyflwyno'r ddogfen mewn adrannau. Ni chaiff maint ffeiliau testun yn unig fod yn fwy na 2 MB.

Ar ôl i chi gyflwyno aseiniad, bydd y mewnflwch cyflwyno yn cynnwys eich papur a gyflwynwyd. Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu ichi weld yr adroddiad tebygrwydd ar gyfer eich papur, bydd canran y paru yn ymddangos unwaith y bydd yr adroddiad wedi'i gynhyrchu.

Sylwch: efallai na fydd papurau sydd wedi'u trosysgrifo neu eu hailgyflwyno yn cynhyrchu adroddiad tebygrwydd newydd am 24 awr. Mae'r oedi hwn yn awtomatig ac yn caniatáu i ailgyflwyniadau gynhyrchu eto, heb gyfateb 100% â'r drafft blaenorol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r tab My Submissions yn cynnwys y colofnau canlynol:

Submission: yn cynnwys teitl y papur a gyflwynwyd a statws y cyflwyniad.

Submitted: yn cynnwys dyddiad ac amser y cyflwyniad.

Tebygrwydd: yn cynnwys y sgôr tebygrwydd ar gyfer y cyflwyniad, sy'n dangos canran y testun yn y papur sy'n cyfateb i gynnwys yng nghronfa ddata Turnitin. Mae'r sgôr tebygrwydd â chod lliw fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

 

Grade: yn cynnwys y radd a dderbyniwyd ar gyfer eich papur, os yw'ch tiwtor yn defnyddio Turnitin i farcio'ch gwaith. Mae clicio ar yr eicon GradeMark yn agor y papur wedi'i raddio. Bydd y radd a'r GradeMark ar gael i'w gweld ar ôl dyddiad postio'r aseiniad.

Yr Adroddiad Tebygrwydd

Cliciwch ar y sgôr tebygrwydd lliw i agor yr adroddiad tebygrwydd llawn. Bydd testun y nodwyd ei fod yn debyg i ffynonellau eraill wedi'i amlygu yn eich aseiniad a darperir rhagor o wybodaeth am y paru hyn yn y golofn 'match overview' ar y dde. 

Turnitin similarity report

Nid yw Turnitin yn gwirio am lên-ladrad mewn darn o waith. Mae'n gwirio gwaith myfyriwr yn erbyn cronfa ddata Turnitin, ac os oes achosion lle mae ysgrifennu myfyriwr yn debyg i un o'u ffynonellau, neu'n paru yn erbyn un ohonynt, bydd yn cael ei nodi yn yr adroddiad tebygrwydd i chi ei adolygu. 

Mae'n hollol naturiol i aseiniad sydd wedi'i ymchwilio'n dda baru yn erbyn peth o gronfa ddata Turnitin. Os ydych wedi defnyddio dyfyniadau ac wedi cyfeirnodi'n gywir, bydd achosion o baru yn eich gwaith. Mae'r sgôr tebygrwydd yn tynnu sylw at unrhyw achosion o baru ac yn helpu'ch tiwtor i benderfynu a yw'r paru yn dderbyniol ai peidio.

Beth yw Sgôr Tebygrwydd resymol?

Nid oes rhif sefydlog i'w dderbyn fel sgôr yn eich Adroddiad Tebygrwydd Turnitin. 

  • Mae Sgôr Tebygrwydd uchel yn golygu mai ychydig iawn o'ch papur a ysgrifennwyd gennych chi eich hun.
  • Mae dim tebygrwydd yn golygu nad ydych chi'n cynnwys unrhyw dystiolaeth sy'n seiliedig ar ffynhonnell, sy'n ofyniad ar gyfer llawer o aseiniadau.
  • Disgwylir peth tebygrwydd fel rheol.

Er enghraifft:

Mae gan Fyfyriwr A wybodaeth dda am bwnc, ac mae wedi cynnal ymchwil drylwyr. Mae wedi casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell i'w dyfynnu yn ei aseiniad, ac wedi cyfeirnodi'r papur yn gywir. Ei sgôr tebygrwydd yw 22%.

Mewn cymhariaeth, ychydig o ymchwil y mae Myfyriwr B wedi'i wneud, ac mae wedi copïo a gludo darn o destun i'w bapur, oherwydd diffyg gwybodaeth am ei bwnc. Nid yw wedi cydnabod ble y daeth o hyd i'r wybodaeth hon. Ei sgôr tebygrwydd yw 20%.

Mae gan y ddau fyfyriwr achosion o baru yn erbyn cronfa ddata Turnitin a sgôr tebygrwydd yn yr un ystod; fodd bynnag, mae Myfyriwr A wedi darparu dyfynodau y daethpwyd o hyd iddynt yn gywir, tra bod Myfyriwr B wedi copïo'n uniongyrchol o wefan.

Beth alla i ei wneud gyda'r wybodaeth yn fy adroddiad?

Dylai'r wybodaeth yn eich Adroddiad Tebygrwydd Turnitin eich helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut i wella'ch ysgrifennu, p'un a yw hynny mewn drafftiau diweddarach o'r un aseiniad neu ar aseiniadau o natur wahanol yn y dyfodol. Os cewch gyfle i adolygu'ch ysgrifennu yn seiliedig ar eich Sgôr Tebygrwydd, ystyriwch y canlynol:

  • Dewiswch y dyfyniadau neu'r rhannau o ddyfyniadau mwyaf arwyddocaol i'w cynnwys o'ch ffynonellau
  • Crynhowch, aralleiriwch, neu eglurwch syniad yn eich geiriau eich hun yn hytrach na'i ddyfynnu'n uniongyrchol
  • Dyfynnwch eich holl dystiolaeth gan ddefnyddio'r arddull dyfynnu briodol 

Uwchlwythwch eich gwaith i'r Gwiriwr Aseiniadau'r Llyfrgell i wirio am lên-ladrad damweiniol cyn i chi gyflwyno'ch gwaith. 

 

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF