Os ydych yn astudio cwrs addysg uwch sy'n cael ei ddilysu gan brifysgol bartner, mae'n ofynnol i chi ddilyn y canllawiau cyfeirnodi a ddarperir gan y sefydliad hwnnw. Gwiriwch gyda'ch darlithydd os nad ydych yn siŵr pa ganllaw cyfeirnodi y dylech fod yn ei ddefnyddio.
Yn y Drindod Dewi Sant mae pedair arddull gydnabyddedig o gyfeirnodi ac mae p’un i’w defnyddio’n dibynnu ar eich maes astudio. I gael gwybod p’un y dylech ei defnyddio, edrychwch yn eich Llawlyfr Rhaglen, a lawrlwytho’ch copi yma.
Llawlyfrau Cyfeirnodi - Gwasanaethau Digidol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
I gael mynediad at ganllaw cyfeirnodi Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a detholiad o adnoddau defnyddiol ar sut i gyfeirnodi'n effeithiol, ewch i'w gwefan Cyfeirnodi a Dyfynnu.
Bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch manylion Prifysgol Metropolitan Caerdydd i gael mynediad at y canllaw.