Skip to Main Content

Cyfeirnodi: Hafan

Cyfeirnodi

Croeso i'r Canllaw Cyfeirnodi

Mae'r tudalennau hyn yn dwyn ynghyd wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i'ch helpu i ddeall a defnyddio cyfeiriadau yn llwyddiannus.

Defnyddiwch y tabiau uchod i ddod o hyd i wybodaeth am bwysigrwydd cyfeirnodi, sut i osgoi llên-ladrad a sut i gyfeirnodi'n gywir yn eich aseiniadau. Fe welwch wybodaeth hefyd am ddefnyddio Turnitin. 

Mae yna wahanol arddulliau cyfeirnodi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa arddull sy'n ofynnol ar gyfer eich cwrs, a dilynwch y canllawiau a ddarperir. 

This guide is also available in English. 

Cyflwyniad i gyfeirio

Rhaid i'r holl waith ysgrifenedig rydych yn ei wneud wrth farcio gyfeirnodi at yr holl ffynonellau gwybodaeth y gwnaethoch eu defnyddio wrth ysgrifennu eich aseiniad. Gelwir hyn yn gyfeirio ac mae'n cydnabod gwaith a syniadau pobl eraill rydych wedi’u defnyddio yn eich aseiniad neu’ch prosiect ymchwil eich hun. Rhaid i chi gynnwys manylion am yr holl lyfrau, gwefannau, delweddau a ffynonellau gwybodaeth eraill y gwnaethoch eu defnyddio wrth baratoi ac ysgrifennu eich aseiniad.
Mae cyfeirnodi yn dangos eich bod wedi ymchwilio i'ch pwnc ac yn dangos eich sgiliau wrth gasglu gwybodaeth, asesu ei pherthnasedd, dadansoddi, gwerthuso a deall gwaith pobl eraill. Mae cyfeirnodi yn rhoi hygrededd i'ch gwaith a gall arwain at farc neu radd well. Mae hefyd:
  • yn dangos yr hyn rydych wedi'i ddarllen ac yn caniatáu i eraill nodi'r ffynonellau rydych wedi'u defnyddio

  • yn dangos eich bod wedi darllen yn eang ac wedi deall y pwnc

  • yn rhoi tystiolaeth ategol ar gyfer eich syniadau, eich barn a'ch dadleuon

  • yn cydnabod gwaith pobl eraill

  • yn osgoi llên-ladrad drwy ei gwneud yn glir pa rai yw eich syniadau chi a pha rai sy'n syniadau i rywun arall

Drwy gyfeirnodi at waith pobl eraill yn gywir, rydych yn osgoi cyhuddiadau o lên-ladrad. Mae llên-ladrad yn golygu copïo gwaith rhywun arall ac esgus mai eich gwaith chi ydyw; gall fod yn fwriadol neu'n ddamweiniol. Yr unig ffordd o osgoi llên-ladrad yw cyfeirnodi at bob ffynhonnell wybodaeth a ddefnyddir yn eich gwaith. Mae enghreifftiau o lên-ladrad yn cynnwys:
  • copïo a chludo testun neu ddelweddau o'r rhyngrwyd heb gydnabod (gan ddyfynnu) y ffynhonnell wreiddiol
  • defnyddio gwaith rhywun arall a chymryd arnoch mai eich gwaith chi ydyw
  • peidio rhoi dyfyniad mewn dyfynodau
  • dyfynnu, crynhoi neu aralleirio gwaith pobl eraill heb ddyfynnu'r ffynhonnell wreiddiol
  • Newid geiriau neu ymadroddion ond copïo strwythur y frawddeg heb ddyfynnu'r ffynhonnell wreiddiol
  • dyfynnu ffynonellau na wnaethoch eu defnyddio
Mae gonestrwydd academaidd yn golygu cymryd cyfrifoldeb am eich gwaith eich hun. Mae datblygu a chynhyrchu eich gwaith eich hun yn gofyn i chi gywain, deall a chyflwyno syniadau pobl eraill; byddwch yn llunio eich barn a'ch syniadau eich hun yn seiliedig ar waith pobl eraill. Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng gwaith pobl eraill a’ch gwaith eich hun, a chydnabod gwaith pobl eraill yn gywir gan ddefnyddio'r confensiynau cyfeirnodi cywir.

Bwriad y canllaw hwn yw cyflwyno’r broses gyfeirnodi i chi yng nghyd-destun deall arferion academaidd da a gonestrwydd academaidd. Rydym eisiau sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol i lunio gwaith ysgrifenedig gonest, ac osgoi llên-ladrad. Mae deall sut i ddefnyddio gwaith pobl eraill yn sgil y byddwch yn ei ddysgu yn y coleg ac yn mynd ag ef gyda chi i Addysg Uwch neu'r gweithle. Gydag arferion academaidd a sgiliau cyfeirnodi da, ni fydd llên-ladrad yn rhywbeth i chi boeni amdano.

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio syniad neu waith rhywun arall, rhaid i chi ei gyfeirnodi ato yn eich aseiniad, e.e. llyfrau, erthyglau cylchgronau, papurau newydd, tudalennau gwe, fideos, nodiadau darlithoedd, delweddau, rhaglenni teledu, neu unrhyw gyfrwng arall y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich aseiniad.

Mae'n werth nodi nad ystyrir bod pob syniad yn perthyn i bobl eraill, ac fel arfer ffeithiau, dyddiadau a digwyddiadau yw'r rhain sy'n cael eu hadnabod yn gyffredinol gan rywun sy'n astudio pwnc penodol. Mae hyn yn wybodaeth gyffredin ac nid oes angen i chi ei cyfeirnodi.

 

 

Cynlluniwch eich gwaith fel bod gennych ddigon o amser i ymchwilio, darllen ac ysgrifennu; gall rhuthro i gwrdd â therfynau amser arwain at ‘lwybrau byr’ ac ymarfer academaidd gwael.
  • Cadwch gofnod o'r holl ffynonellau rydych chi'n eu darllen wrth fynd (awdur, teitl, dyddiad).
  • IOs ydych yn defnyddio deunydd o'r rhyngrwyd, nodwch yr URL a'r dyddiad y gwnaethoch fynd ar y safle.
  • Wrth gymryd nodiadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu adnabod eich syniadau a'ch geiriau eich hun, lle rydych chi’n cofnodi dyfyniadau uniongyrchol (a chofiwch nodi rhif y dudalen), a lle'r ydych yn aralleirio.
  • Os nad ydych yn siŵr, cyfeiriwch!

Mae'r canllaw hwn yn rhestru'r ffynonellau y byddwch yn eu defnyddio amlaf wrth ysgrifennu eich aseiniadau. Nid yw'n cynnwys yr holl ffynonellau posibl y gallech fod am eu defnyddio.

Gofynnwch i lyfrgellydd am help gydag unrhyw beth nad ydych yn siŵr yn ei gylch neu cysylltwch â ni drwy e-bostio libraries@nptcgroup.ac.uk

Dylech gael sesiwn gweithdy llyfrgell ar gyfeirio yn eich blwyddyn gyntaf yn y coleg. Gallwch hefyd fynd i sesiynau galw heibio yn y llyfrgell neu archebu sesiwn un-i-un gyda Chynghorydd Llyfrgell profiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Moodle Llyfrgelloedd.

Cyfres o ganllawiau yw system neu arddull cyfeirnodi sy'n dangos i chi pa wybodaeth sydd ei hangen mewn cyfeiriad a pha fformat y dylech ei ddefnyddio, yn eich testun ac yn eich rhestr gyfeirio ar ddiwedd y ddogfen. Mae Grŵp NPTC yn defnyddio system gyfeirnodi Harvard yn bennaf:

  • Awdur-Dyddiad (e.e. Harvard): Rhoddir cyfenwau a blwyddyn cyhoeddi'r awdur yn y testun a rhoddir rhestr gyfeirio/llyfryddiaeth yn nhrefn yr wyddor ar y diwedd.

Mae rhai adrannau'n defnyddio systemau gwahanol:

  • Rhifiadol (e.e. Vancouver ar gyfer Cyfrifiadura a TG): Mae rhif uwchysgrif yn y testun yn cyfeirnodi at restr gyfeirnodi gyda rhifau ar ddiwedd y ddogfen.

  • Llyfryddiaeth-Troednodyn (e.e. MHRA ar gyfer Hanes): Mae rhif uwchysgrif yn y testun yn cyfeirnodi at y troednodiadau a geir ar waelod pob tudalen a rhoddir rhestr gyfeirio/llyfryddiaeth yn nhrefn yr wyddor ar y diwedd.

Bydd eich darlithwyr yn cadarnhau pa system y dylech ei defnyddio.

Argymhellion i’w darllen

Cliciwch am help

Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell?  Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch nilibraries@nptcgroup.ac.uk.  

Ask a librarian logo Welsh

Adborth

Oedd y canllaw hwn yn ddefnyddiol?
Defnyddiol iawn: 2 votes (100%)
Eithaf defnyddiol: 0 votes (0%)
Ddim yn ddefnyddiol: 0 votes (0%)
Total Votes: 2

Cyfryngau cymdeithasol

Cael y newyddion diweddaraf gan y llyfrgell

Instagram logo@nptclibs

 

            @nptclibs

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF