Dylai ymweliad â'r llyfrgell, naill ai'n bersonol neu â'n llyfrgell ar-lein, fod ar frig eich rhestr wrth ymgymryd ag unrhyw ymchwil. Cymerwch amser i ymchwilio i'r holl adnoddau sydd ar gael i chi am ddim.
Mae staff y llyfrgell ar gael i'ch cynorthwyo gyda'ch holl ymholiadau gwybodaeth. Gallwn eich helpu i lywio adnoddau ar-lein, dod o hyd i'r llyfrau a'r siwrnalau cywir, eich cynorthwyo gyda thechnegau chwilio, cyfeirio a dod o hyd i'r wybodaeth gywir ar gyfer eich aseiniad.
Cofiwch, wrth ddefnyddio adnoddau ar gyfer ymchwil, gwerthuswch ansawdd yr wybodaeth a welwch bob amser gan ddefnyddio meini prawf fel y prawf CRAAP. I gael cyngor a gwybodaeth am sut i werthuso gwybodaeth, ewch i'n cwrs Sgiliau Ymchwil ar Moodle.

Cylchgronau academaidd a gyhoeddir ar adegau cyfnodol drwy'r flwyddyn yw cyfnodolion. Rydym yn tanysgrifio i ystod eang o gylchgronau a chyfnodolion ar ffurf electronig a phrint. Maent yn adnoddau pwysig am eu bod:
Gallwch ddod o hyd i gylchgronau academaidd drwy'r adran Cyfnodolion, erthyglau a newyddion ar dudalen moodle y llyfrgell.
Rydym wedi darparu rhai dolenni i wefannau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi ar gyfer eich prosiect:
Ffordd syml o chwilio am erthyglau a llyfrau academaidd. Bydd chwilio yn Google Scholar yn mynd â chi yn syth at ddeunydd gan gyhoeddwyr academaidd a chymdeithasau proffesiynol.
Angen mwy o help gyda chwestiynau sgiliau ymchwil?
Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Chwilio catalog y llyfrgell am lyfrau, e-lyfrau, DVDs