Mae sgiliau ymchwil da yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth a’i defnyddio yn effeithiol. Bydd gwybod sut i gynllunio a chreu strategaeth chwilio yn eich galluogi i gasglu gwybodaeth yn effeithlon, cymharu gwahanol ffynonellau gwybodaeth, a dod i’ch casgliadau eich hun i ateb cwestiwn neu gwblhau aseiniad.
Bydd y canllaw hwn yn eich cynorthwyo i lywio’r broses ymchwil; bydd yn dangos i chi sut i ddod o hyd i wybodaeth o ansawdd da, ei defnyddio a’i gwerthuso, gan eich galluogi i gynhyrchu gwaith academaidd gwell a chyflawni canlyniadau gwell. Gellir defnyddio’r sgiliau hyn yn eich bywyd bob dydd a byddant yn amhrisiadwy wrth symud ymlaen i’r brifysgol neu gyflogaeth.
Mae’r canllaw hwn yn gyflwyniad; am esboniadau manylach, edrychwch ar y detholiad o e-lyfrau isod. Gallwch glicio i fynd yn syth atynt.
This guide is also available in English.
Os ydych yn ymgymryd â phrosiect ymchwil fel rhan o’ch Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gallai fod y llawlyfr SYG canlynol yn ddefnyddiol i chi. Fe’i dyluniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i helpu i ddatblygu’r sgiliau ymchwil cymdeithasol ac economaidd sy’n ofynnol ar gyfer eich prosiect.
Angen mwy o help gyda chwestiynau sgiliau ymchwil?
Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.