Dod o hyd i bwnc addas yn aml yw'r rhan anoddaf o unrhyw dasg ymchwil. Mae'r dewis yn aml i'w weld yn ddiddiwedd, felly mae treulio amser yn meddwl am eich pwnc yn rhan hanfodol o'r broses. Mae'n bwysig cymryd yr amser i ymchwilio i faterion cyfoes sy'n berthnasol i'ch diddordebau. Trafodwch eich syniadau gyda'ch darlithydd, ac yna dechreuwch wneud ymchwil iddynt ar-lein, yn y llyfrgell ac mewn siwrnalau a phapurau newydd.
Defnyddiwch yr adnoddau sydd ar y dudalen hon i'ch helpu i brofi ac ymchwilio i'ch syniadau ar gyfer eich prosiect.
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'ch hun:

Bydd ateb y cwestiynau hyn yn rhoi syniad i chi o'r hyn y byddwch eisiau seilio eich prosiect ymchwil arno. Mae'n bwysig i chi ystyried mynediad at wybodaeth. Mae llawer o erthyglau ymchwil y tu ôl i waliau talu ac felly gall fod yn ddrud dod o hyd iddynt. Mae dewis pwnc sy'n amserol, yn gyfredol ac ar gael yn ei gwneud yn haws dod o hyd i wybodaeth berthnasol.
Gall mapiau meddwl a mapiau cysyniad eich helpu i ddelweddu, cysylltu a chrynhoi eich syniadau. Dechreuwch gyda'r pynciau rydych wedi'u nodi drwy ateb y cwestiynau blaenorol, a gadewch i'ch dychymyg lifo.
Rhowch gynnig ar offeryn mapio meddwl am ddim, neu edrychwch ar y mapiau meddwl ar Credo i'ch helpu chi. Gall yr ap WhiteBoard ar eich cyfrif Office365 hefyd eich helpu i roi trefn ar eich syniadau.
Gwyliwch y fideo byr hwn gan Lyfrgelloedd NC State Universities sy'n esbonio pwysigrwydd profi eich syniadau wrth ddewis eich pwnc.
Perffaith ar gyfer ymchwilio i bynciau posib, yn enwedig ar gyfer prosiectau Bagloriaeth Cymru. Dyma ffynhonnell wybodaeth bwysig am faterion cymdeithasol cyfoes.
Mae'r pynciau'n cynnwys, trosedd ac anhrefn, materion iechyd, yr amgylchedd, cynaladwyedd, addysg, hawliau dynol a gwahaniaethu, a mwy.

Mae The Conversation yn adnodd ardderchog ar gyfer dod o hyd i bynciau trafod cyfredol. Mae'n ffynhonnell newyddion, dadansoddi a barn arbenigol annibynnol, a ysgrifennir gan academyddion ac ymchwilwyr.
Mae'n brosiect gwybodaeth byd-eang am ddim gyda chynnwys a gynhyrchir gan ysgolheigion o bob cwr o'r byd. Archwiliwch yr adnodd i ddarganfod pynciau a syniadau ar gyfer eich prosiect.
Mae Oxplore yn adnodd digidol a ddyfeisiwyd gan Brifysgol Rhydychen i herio myfyrwyr gyda cyd-drafodaethau sy'n taclo syniadau cymhleth ar draws ystod eang o bynciau. Mae'n adnodd defnyddiol i ddechrau ymchwilio i bynciau o ddiddordeb.
Mae Credo Reference yn lle da iawn i ddechrau eich taith ymchwil. Bydd defnyddio'r nodwedd chwilio sylfaenol yn eich galluogi i chwilio gwyddoniaduron a geiriaduron am ddiffiniadau a chefndiroedd ar y rhan fwyaf o bynciau. Mae ychwanegu'r offeryn map meddwl yn eich galluogi i archwilio pynciau tebyg a chysylltiedig yn eich dewis bwnc. Bwrw golwg ar eu fideos ymchwil cyflym defnyddiol am awgrymiadau i'ch helpu gyda'ch prosiect.

Mae rhaglenni dogfen, cyfweliadau a rhaglenni cyffredinol yn aml yn ennyn ein diddordeb mewn pynciau ac yn codi ein hymwybyddiaeth o faterion anghyfarwydd. Mae BoB yn adnodd gwych ar gyfer dod o hyd i'r fath adnoddau.