Skip to Main Content

Deallusrwydd Artiffisial: cyfarwyddyd i fyfyrwyr

Cyfarwyddyd i fyfyrwyr sy'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Croeso i’r canllaw myfyrwyr i Ddeallusrwydd Artifisial (AI). Bydd y tudalennau hyn yn rhoi cyfarwyddyd i chi ar sut i ddefnyddio adnoddau AI yn gyfrifol ac yn foesegol yn eich asesiadau a’ch gwaith yn y coleg.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn annog staff addysgu a myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar AI cynhyrchiol, ac rydym wedi ymrwymo i’ch paratoi chi ar gyfer dyfodol sy’n cael ei alluogi’n gynyddol gan AI, gyda’r sgiliau digidol y bydd arnoch eu hangen ar gyfer eich gyrfaoedd academaidd a’ch gwaith yn y dyfodol.

Wrth i chi ddatblygu eich sgiliau digidol, mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod sut i ddefnyddio'r adnoddau AI hyn yn effeithiol ac yn foesegol, a heb effeithio'n negyddol ar eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth eich hun o'r pynciau rydych chi'n eu hastudio.

Ni ddylech byth ddefnyddio adnoddau AI i gynhyrchu gwaith a'i gyflwyno fel eich gwaith eich hun. Bydd y canllaw hwn yn dangos ffyrdd i chi ddefnyddio adnoddau AI yn eich gwaith academaidd, a sut i gydnabod eu defnydd.

This guide is available in English.

Adnoddau AI a beth gallant ei wneud?

Mae gwahanol fathau o adnoddau AI:

  • Cynhyrchwyr Testun: Fel ChatGPT neu Microsoft Copilot, sy'n gallu ysgrifennu testun fel bod dynol bron.
  • Crëwyr Delweddau: Fel DALL-E, sy'n gallu gwneud lluniau o ddisgrifiadau.
  • Cynorthwywyr Codio: Fel GitHub Copilot, sy'n awgrymu cod tra rydych chi'n rhaglennu.

Mae enghreifftiau o'r adnoddau AI hyn yn cynnwys:

Mae nifer yr adnoddau AI yn cynyddu'n gyson a gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn y Cyfeiriadur Adnoddau AI.

Sut gallaf i ddefnyddio AI?

Gall adnoddau AI gefnogi eich ymchwil, a gallwch eu defnyddio i wneud y canlynol:

• cynhyrchu syniadau ar gyfer eich prosiect ymchwil

• cynhyrchu syniadau ar gyfer graffeg, delweddau a deunydd gweledol

• strwythuro traethawd neu aseiniad

• egluro neu symleiddio syniadau cymhleth

• trafod pynciau gydag AI i brofi eich gwybodaeth eich hun

• cynhyrchu rhestr o gyfeiriadau/ffynonellau gwybodaeth defnyddiol i chi eu harchwilio

• gwella eich gramadeg a'ch strwythur ysgrifennu - defnyddiwch Microsoft 365, fel Editor

• crynhoi erthyglau hir, yn hytrach na brasddarllen

Cofiwch: rhaid i’ch asesiadau fod yn waith o’ch eiddo chi eich hun bob amser, a rhaid i chi gydnabod bob amser pan fyddwch wedi defnyddio AI.

Beth yw cyfyngiadau AI?

Mae AI yn adnodd pwerus i gynorthwyo eich gwaith ond mae gan adnoddau AI gyfyngiadau; mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r canlynol:

• gallant gynhyrchu gwybodaeth anghywir, a chynhyrchu ymatebion sy'n cynnwys gwybodaeth ffug neu sydd wedi dyddio

• gallant gyflwyno gwybodaeth ragfarnllyd, a diffyg safbwyntiau amrywiol

• gall adnoddau AI gynhyrchu cyfeiriadau ffug at lyfrau ac erthyglau

• gallant 'rithweledigaethu' a chreu gwybodaeth heb fod yn wir

Mae'n bwysig eich bod yn gwerthuso'n feirniadol unrhyw gynnwys sy'n cael ei gynhyrchu gan adnodd AI, a gwirio'r ffynhonnell wreiddiol bob amser am gywirdeb cyn ei defnyddio.

Diogelwch AI a phreifatrwydd data

Rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r ffaith y gall systemau AI, fel sgyrsfotau a chynhyrchwyr delweddau, storio a phrosesu'r data a ddarperir iddynt, yn amrywio o ymholiadau sylfaenol i fanylion mwy personol. Er mwyn cynnal preifatrwydd a diogelwch, rydym yn eich cynghori i wneud y canlynol:

Peidiwch â rhannu gwybodaeth sensitif: Ceisiwch osgoi rhoi gwybodaeth bersonol, ariannol neu gyfrinachol mewn adnoddau AI a chadwch yn glir o'r ysgogiadau a allai ofyn am ddatgelu manylion o'r fath.

Byddwch yn wybodus am bolisïau data: Ceisiwch fod yn gyfarwydd â pholisïau casglu a defnyddio data’r gwahanol blatfformau AI, gan eich helpu i ddeall y defnydd posibl neu rannu eich data.

Byddwch yn ofalus gyda data'r coleg: Mewn prosiectau neu ymchwil sy'n cynnwys data'r coleg, dylech gydymffurfio bob amser â pholisïau'r sefydliad ar breifatrwydd a diogelwch data.

Rhowch wybod am unrhyw broblemau yn brydlon: Os byddwch chi'n dod ar draws problemau sy'n ymwneud â chamddefnyddio data neu fynd yn groes i reolau preifatrwydd wrth ddefnyddio AI, rhowch wybod am y digwyddiadau hyn ar unwaith i'r awdurdodau priodol yn y coleg.

Byddwch yn ymwybodol o ofynion oedran: Mae'r rhan fwyaf o adnoddau AI, gan gynnwys ChatGPT a Microsoft Copilot, angen caniatâd rhieni os ydych chi’n iau na 18 oed, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch rhiant neu warcheidwad cyn defnyddio'r adnoddau hyn.

Diogelwch AI a Phreifatrwydd Data (Jisc, 2024).

 

Sut i beidio â defnyddio AI yn y coleg

Yn y coleg, dylid defnyddio AI fel cymorth, nid yn lle gwaith y dysgwr ei hun. Gall camddefnyddio AI yn y coleg arwain at ganlyniadau academaidd. Mae enghreifftiau o sut i beidio â defnyddio AI yn cynnwys:

  • Cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan AI fel eich gwaith eich hun: Mae defnyddio AI i gwblhau aseiniadau, traethodau, neu brosiectau heb gyfeiriadau cywir at offer rydych wedi'u defnyddio neu sy'n groes i ganllawiau academaidd yn anfoesegol a gellir ei ystyried yn lên-ladrad.
  • Dibynnu ar AI yn unig ar gyfer Dysgu: Gall defnyddio AI fel yr unig ffynhonnell o wybodaeth neu ddealltwriaeth yn eich astudiaethau lesteirio eich gallu i feddwl yn feirniadol a dysgu'n ddwfn.
  • Osgoi cyfleoedd dysgu: Mae defnyddio AI i osgoi ymgysylltu â deunydd dysgu heriol neu i osgoi prosesau dysgu yn lleihau eich cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol.

Ysgogwr enghreifftiol

Ymateb enghreifftiol

Problem gyda'r ysgogwr hwn
“I need to write an essay about the communication skills. Can you write it for me?” “Sure, here’s a complete essay on the communication skills: [full essay].”

Mae hwn yn gais uniongyrchol i gael AI i wneud yr aseiniad cyfan, sy'n gyfystyr â llên-ladrad.

 

“I have a math assignment due. Can you solve these problems for me?” “Yes, here are the solutions to your math problems: [complete solutions].”

Mae trosgwlyddo'r datrys problemau i AI yn osgoi eich proses ddysgu.

“Can you write an assignment on global warming for my science class?” “Certainly, here’s a assignment on global warming: [complete paper].”

Yn debyg i'r enghraifft gyntaf, mae hyn yn gofyn i AI wneud y dasg gyfan, sy'n anfoesegol ac yn anonest yn academaidd.

 

“I’m not sure if I can use AI for my history presentation. Can you create the presentation for me?” “Yes, I can create the presentation slides for you: [complete presentation slides].”

Mae hyn yn disodli eich gwaith a’ch dealltwriaeth eich hun gyda chynnwys a gynhyrchir gan AI, gan arwain at ddiffyg dysgu a chyfraniad personol..

 

“I need a business studies topic and essay for my assignment. Can AI write it for me?” “Absolutely, here’s a topic and an essay on your chosen topic: [complete essay].”

Mae hwn yn achos difrifol o anonestrwydd academaidd gan fod traethawd ymchwil yn waith mawr, gwreiddiol y disgwylir iddo fod yn eich ymdrech chi.

 

“Can you add references to this piece of work?” “Sure, here are some references: [provided references].”

Mae hyn yn annog dibyniaeth ar AI ar gyfer tasgau cywirdeb academaidd, a allai arwain at gyfeiriadau ffug neu amhriodol.

 

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF