Skip to Main Content

Lles

Cyflwyniad

                                                                                                                                                                                                                       Mae angen ychydig o help ar bob un ohonom i ofalu am ein lles corfforol a’n hiechyd meddwl o bryd i’w gilydd. Bydd yr adnoddau yn y canllaw hwn yn eich helpu i ddysgu am eich anghenion iechyd a sut i'w rheoli.  Mae hefyd yn darparu dolenni i ffynonellau cymorth a mwy o wybodaeth.undefined

Yn ogystal â darparu deunydd defnyddiol ar gyfer diddordeb personol, mae'r cynnwys yn y canllaw hwn yn ymwneud ag uned Ffordd o fyw a lles personol y rhaglen diwtorialau e-step.

Nid yw'r detholiad hwn yn rhestr ddarllen gyflawn o bell ffordd, ac ni fwriedir iddo fod ychwaith.  Os ydych eisiau dod o hyd i fwy o lyfrau am y pwnc hwn ac mae angen cymorth arnoch gyda'ch ymchwil, cysylltwch â ni ac #AskALibrarian

This guide is also available in English

 

Cymorth a chefnogaeth

Oes angen mwy na chanllaw hunangymorth arnoch?  Mae gan y Coleg Wasanaeth Cwnsela proffesiynol. Mae Cwnselwyr y Coleg wedi’u lleoli yn y Parth Myfyrwyr ac maent yn darparu gwasanaeth cyfrinachol ar gyfer pob myfyriwr ar draws yr holl safleoedd. Mae’r cwnselwyr yn meddu ar gymwysterau proffesiynol, yn cadw at Gôd Moeseg BACP ac mae ganddynt brofiad helaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd. Gallwch gael gafael ar y gwasanaeth drwy broses atgyfeirio, gallwch gyfeirio eich hunan neu gael eu cyfeirio gan eich tiwtoriaid. Darperir cwnsela ar ffurf chwe sesiwn ac mae’r tîm yn cysylltu’n agos â phartneriaid allanol arbenigol.

I gysylltu â’r tîm cwnsela, gallwch godi ffurflen atgyfeirio o’r Parth Myfyrwyr, neu ymweld â’r ardal Cwnsela ar Moodle i lenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein a'i e-bostio at y gwasanaeth cwnsela

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF