Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan hiliaeth neu gan ddigwyddiadau yr adroddwyd arnynt ar y cyfryngau, mae staff yn y coleg ar gael i'ch cefnogi chi.
Cysylltwch â’r staff Cefnogi Myfyrwyr os oes arnoch chi angen cyngor am y cymorth sydd ar gael:
Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Protest Mae Bywydau Du o Bwys
Arweiniodd arestio a marwolaeth George Floyd ym Minneapolis ar 25 Mai 2020 at brotestiadau torfol a chefnogaeth wrth-hiliaeth i bobl Ddu ledled y Byd. Tynnodd y digwyddiadau sylw at y frwydr fyd-eang dros gydraddoldeb hiliol a’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys / Black Lives Matter.
Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydyn ni’n gwbl ymroddedig i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at y gwasanaethau sydd arnynt eu hangen, yn rhydd o unrhyw wahaniaethu, aflonyddu, bwlio neu erlid, a bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Er mwyn brwydro yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu mae angen i ni addysgu ein hunain am y problemau. Mae’r canllaw hwn yn darparu detholiad o adnoddau o lyfrgelloedd y coleg a fydd yn eich helpu i ddeall rhai o’r materion a wynebir gan bobl Ddu yn y DU a’r Unol Daleithiau.
Nid yw'r detholiad yma’n rhestr ddarllen gyflawn o bell ffordd, ac nid yw i fod yn rhestr o’r fath chwaith. Os ydych chi eisiau dod o hyd i ragor o lyfrau a gwybodaeth am y pwnc hwn a bod arnoch angen unrhyw help gyda'ch ymchwil, cysylltwch â ni a #GofynILyfrgellydd.
This guide is also available in English.
Llun gan Katombe Mbangama o Pixabay