Skip to Main Content

Mae Bywydau Du o Bwys

Cyflwyniad

Protest Mae Bywydau Du o Bwys

Arweiniodd arestio a marwolaeth George Floyd ym Minneapolis ar 25 Mai 2020 at brotestiadau torfol a chefnogaeth wrth-hiliaeth i bobl Ddu ledled y Byd. Tynnodd y digwyddiadau sylw at y frwydr fyd-eang dros gydraddoldeb hiliol a’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys / Black Lives Matter.

Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydyn ni’n gwbl ymroddedig i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at y gwasanaethau sydd arnynt eu hangen, yn rhydd o unrhyw wahaniaethu, aflonyddu, bwlio neu erlid, a bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Er mwyn brwydro yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu mae angen i ni addysgu ein hunain am y problemau. Mae’r canllaw hwn yn darparu detholiad o adnoddau o lyfrgelloedd y coleg a fydd yn eich helpu i ddeall rhai o’r materion a wynebir gan bobl Ddu yn y DU a’r Unol Daleithiau.

Nid yw'r detholiad yma’n rhestr ddarllen gyflawn o bell ffordd, ac nid yw i fod yn rhestr o’r fath chwaith. Os ydych chi eisiau dod o hyd i ragor o lyfrau a gwybodaeth am y pwnc hwn a bod arnoch angen unrhyw help gyda'ch ymchwil, cysylltwch â ni a #GofynILyfrgellydd.

This guide is also available in English.

Llun gan Katombe Mbangama o Pixabay

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF