Skip to Main Content

Cymorth ariannol: Home

Materion Ariannol

stacks of coinsOs ydych chi'n cael unrhyw broblemau ariannol neu eisiau darganfod pa gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo tra'ch bod chi'n fyfyriwr, mae'r canllaw hwn ar eich cyfer chi.  Rydym wedi casglu ynghyd wybodaeth a dolenni i wahanol ffynonellau cymorth ariannol a allai fod o gymorth os ydych ar incwm isel, yn cael trafferth gyda chostau byw neu wedi cael newid mewn amgylchiadau. Cofiwch, os oes angen cyngor neu gymorth arnoch, mae ein tîm Cymorth i Fyfyrwyr yno i helpu.  Ewch i'w gweld yn y Parthau Myfyrwyr neu cysylltwch â nhw trwy e-bost: student.support@nptcgroup.ac.uk

This guide is also available in English

Image by Kevin Schneider from Pixabay

 

Cymorth ariannol

Gall myfyrwyr Grŵp NPTC fod yn gymwys i gael taliad nad yw’n ad-daladwy o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) a all gefnogi gyda phrydau coleg, ad-daliadau offer cwrs, tocyn bws neu ad-daliadau teithio, a thaliadau gofal plant i’ch gwarchodwr plant.

Gallwch gysylltu â'r tîm Cymorth i Fyfyrwyr ar studentsupport@nptcgroup.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am gyllid arall.

Dolenni defnyddiol

Cyngor ar Bopeth

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch gyda'ch hawliau ynghylch dyled, budd-daliadau, tai, materion defnyddwyr, materion teuluol, neu gyfraith cyflogaeth, siaradwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth Leol:

Swansea and Neath Port Talbot  Tel: 0808 278 7926            

Bridgend Tel: 01656 762 800 

Powys Tel: 0345 6018421 

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF