Skip to Main Content

Cymorth ariannol: Cymorth yn y Coleg

Cymorth Ariannol

Dilynwch y ddolen uchod i agor y canllaw Dewch i Siarad am Arian.  Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y grantiau a’r taliadau y gallwch eu cyrchu fel myfyriwr coleg. 

Gwybodaeth Ychwanegol:

LCA/GDLlC  

Gall myfyrwyr nad ydynt fel arfer yn bodloni gofynion incwm y cartref ar gyfer y grantiau uchod wneud cais o hyd os bu newid yn amgylchiadau eu cartref sy'n golygu bod incwm eu cartref wedi gostwng. Mae angen i fyfyrwyr wneud cais fel arfer, gan gasglu pecyn cais o'u Parth Myfyrwyr a gofyn i ni am lythyr cadarnhad myfyriwr sy'n amlinellu'r newidiadau yn eu hamgylchiadau.  

Cronfa Ariannol wrth Gefn i Fyfyrwyr Addysg Bellach

Gall myfyrwyr wneud cais am y gronfa uchod, os ydynt yn teimlo y byddent yn elwa o brydau am ddim, cymorth gyda chludiant (trên, bws, costau tanwydd), cyfraniad at gostau gofal plant, ad-daliad o 100% o offer eich cwrs a thaliadau brys os ydych yn dioddef o galedi ariannol. Gallwn hefyd roi talebau Tesco i helpu gyda siopa am fwyd a'ch cyfeirio at fanc bwyd os oes angen.   

Cronfa Galedi Addysg Uwch ar gyfer Myfyrwyr Addysg Uwch

Gall myfyrwyr sy'n profi caledi ariannol wneud cais am y gronfa uchod a all helpu ar sail untro i leddfu baich ariannol astudio yn y Coleg. Ni ellir defnyddio'r gronfa i dalu dyled sydd eisoes yn bodoli ond gellir ei defnyddio i gynorthwyo gydag unrhyw beth ariannol a allai rwystro myfyriwr rhag astudio gyda ni. 

I wneud cais neu i gael cyngor am eich cymhwyster ar gyfer cyllid, galwch i mewn i'ch Parth Myfyrwyr neu e-bostiwch studentsupport@nptcgroup.ac.uk.
 

 

Gostyngiadau Undeb y Myfyrwyr

Oeddech chi'n gwybod eich bod chi, fel myfyriwr coleg, yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig a bod gennych hawl i ostyngiadau ar frandiau mawr? Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, cofrestrwch ar gyfer Student Beans a Unidays– mae'r ddau am ddim ac mae angen ap ar eich ffôn. Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn astudio gyda ni trwy gofrestru trwy'r ap gan ddefnyddio eich cyfrif e-bost coleg. Unwaith y gwneir hyn, porwch yr ap am godau disgownt i'w defnyddio yn y siop neu ar-lein.  

Cynllun benthyca dyfeisiau digidol

Os nad oes gennych chi ddyfais ddigidol eisoes, fel gliniadur neu chrome book sy'n addas at ddibenion addysgol, ac os nad ydych yn gallu prynu un, efallai y byddwch yn gymwys i fenthyca offer gan y Coleg drwy gydol eich cwrs. 

Eiddo'r Coleg yw'r offer a fenthycir o hyd ond byddwch yn gallu mynd ag ef adref yn ogystal â'i ddefnyddio ar y campws pan fyddwch yn mynychu ar gyfer gwersi.  

Gall unrhyw fyfyriwr wneud cais am fenthyca dyfais ddigidol ond mae ein hadnoddau’n gyfyngedig felly rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd â'r angen mwyaf, er enghraifft y rhai sydd yng Ngofal yr Awdurdod Lleol, y rhai sy'n Gadael Gofal, Gofalwyr, Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr, neu sydd ag Angen Dysgu Ychwanegol, sy'n gymwys i gael LCA/GDLlC ac sydd wedi gwneud cais am Gyllid Ariannol Wrth Gefn y Coleg.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drafod eich cymhwysedd i gael cymorth drwy'r Cynllun Benthyciadau Digidol, anfonwch e-bost i digitalloans@nptcgroup.ac.uk

Bydd y ceisiadau i fenthyca dyfais yn agor ym mis Medi 2022.

Dillad a hanfodion

Mae pecynnau o bethau ymolchi hanfodol am ddim ar gael i bob myfyriwr.  Mae pecynnau'n cynnwys detholiad o gynhyrchion bob dydd, gan gynnwys siampŵ, gel cawod, diaroglydd, brws dannedd a phast dannedd.  Gallwch gasglu eich pecyn am ddim o'r Parth Myfyrwyr neu'r Llyfrgell ar eich campws. Gall myfyrwyr yn y Cwtch eu casglu o brif gampws Bannau Brycheiniog.

Gallwn hefyd ddarparu trowsus loncian a phecynnau o ddillad isaf sbâr yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd eu hangen.   

Angen cot gynnes?  Mae gan bob un o lyfrgelloedd y coleg reilen o gotiau ail-law sydd ar gael i unrhyw un a hoffai un.  Nid oes angen gofyn, os gwelwch rywbeth yr ydych yn ei hoffi, cymerwch ef. 

Dod o hyd i swydd

Mae ein hadran Centerprise yn cynnig cymorth i bob myfyriwr gyda dod o hyd i swydd, ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni, a thechnegau cyfweld i'ch helpu gyda cheisiadau am swyddi.   Am ragor o wybodaeth ac i siarad â chynghorydd, cysylltwch centerprise@nptcgroup.ac.uk  

Centerprise logo

 

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF