Cylchgronau academaidd a gyhoeddir ar adegau cyfnodol drwy'r flwyddyn yw cyfnodolion. Rydym yn tanysgrifio i ystod eang o gylchgronau a chyfnodolion ar ffurf electronig a phrint. Maent yn adnoddau pwysig am eu bod:
Gallwch ddod o hyd i gylchgronau academaidd drwy'r adran Cyfnodolion, erthyglau a newyddion ar dudalen moodle y llyfrgell.
Gall papurau newydd fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth ar gyfer datblygiadau diweddaraf digwyddiad ac i gael gwybod y farn bresennol am bynciau dadleuol. Maent hefyd yn rhoi cipolwg ar farn y cyhoedd a'r hwyliau cenedlaethol ar adeg digwyddiadau hanesyddol.
Mae gennym fynediad ar-lein i nifer o bapurau newydd cyfredol a rhai wedi’u harchifo.
Ffordd syml o chwilio am erthyglau a llyfrau academaidd. Bydd chwilio yn Google Scholar yn mynd â chi yn syth at ddeunydd gan gyhoeddwyr academaidd a chymdeithasau proffesiynol.