Mae llyfrau yn rhoi cipolwg ar eich pwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Maent yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau.
Chwiliwch gatalog y llyfrgell am y llyfrau sydd eu heisiau arnoch, neu cewch bip ar ein hargymhellion ar gyfer eich pwnc.
Clicio a Chasglu
Defnyddiwch gatalog y llyfrgell i ddod o hyd i'r llyfrau sydd eu hangen arnoch.
Edrychwch ar statws y llyfr i weld a yw ar gael neu ar fenthyg.
Os yw'r llyfr ar gael, gwnewch nodyn o'r lleoliad a'r marc silff (lle byddwch yn dod o hyd i'r llyfr ar y silffoedd).
Os yw'r copïau o'r llyfr sydd ei angen arnoch ar fenthyg gallwch ofyn am gopi gan y llyfrgell.
Prif farciau silffoedd ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Seicoleg | 150 |
Seicoleg Plant | 155.4 |
Moeseg | 179 |
Cymdeithaseg | 300-302 |
Datblygiad Plant | 305.231 |
Teulu | 306 |
Iechyd a Gofal Cymdeithasol | 362 |
Iechyd Meddwl | 362.2 616.8 |
Gofal Iechyd | 362.1 |
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Gofal Iechyd | 362.1042 361.61 |
Amddiffyn Plant | 362.7 |
Addysg Blynyddoedd Cynnar | 372.21 |
Anatomeg a Ffisioleg | 612 |
Gofal plant | 649.1 |
Mae'r llyfrau hyn a argymhellir ar gael i chi eu benthyg o'r llyfrgell.
Os oes rhywbeth ar goll o'n llyfrgell gadewch i ni wybod. Argymell llyfr i ni ei brynu ar gyfer y llyfrgell.
Chwilio catalog y llyfrgell am lyfrau, e-lyfrau, DVDs
Mae ein casgliadau o e-lyfrau yn darparu mynediad 24/7 at y deunyddiau dysgu ac ymchwil sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs
Ewch i'n tudalen e-lyfrau ar Moodle neu chwilio yng nghatalog y llyfrgell am e-lyfrau.