Ethnic Minorities & Youth Support Team (EYST)Sefydlwyd Tîm Cefnogi Pobl Ifanc a Lleiafrifoedd Ethnig yn 2005 gan grŵp o bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig yn Abertawe. Ei nod oedd llenwi bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc DLlE 11 i 25 oed drwy ddarparu gwasanaeth cefnogi cyfannol, diwylliannol sensitif i ddiwallu eu hanghenion. Ers hynny, mae EYST wedi ehangu ei genhadaeth a’i weledigaeth i ddiwallu anghenion pobl ifanc DLlE hefyd, a’u teuluoedd ac unigolion, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghymru.