Os yw hiliaeth neu ddigwyddiadau a adroddwyd yn y cyfryngau wedi effeithio arnoch, mae staff yn y coleg ar gael i'ch cefnogi. Cysylltwch â staff Cymorth i Fyfyrwyr os oes angen cyngor arnoch am y cymorth sydd ar gael: studentsupport@nptcgroup.ac.uk
Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon wedi cael ei ddathlu yn y DU bob mis Hydref ers 1987.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cydnabod y cyfraniad y mae pobl Dduon wedi'i wneud yn hanes Prydain yn ogystal â thynnu sylw at agweddau hiliol hanes Prydain fel y fasnach gaethwasiaeth drawsiwerydd ac effaith barhaus yr Ymerodraeth Brydeinig wladychol.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn bwysig gan fod pobl dduon wedi cael eu gwthio i'r cyrion a'u hanwybyddu yn hanes Prydain yn hanesyddol. Nid yw hanes pobl dduon ar wahân i hanes Prydain nac yn ychwanegiad ato - mae'n rhan annatod o hanes Prydain, ac mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ein hannog i gydnabod hyn.
Mae'r canllaw hwn yn darparu detholiad o adnoddau o lyfrgelloedd y coleg ac ar-lein a fydd yn eich helpu i archwilio'r rhan bwysig hon o hanes Prydain.
Nid yw'r detholiad hwn yn rhestr ddarllen gynhwysfawr o bell ffordd, ac nid dyna yw'r bwriad. Os ydych am ddod o hyd i ragor o lyfrau a gwybodaeth am y pwnc hwn a bod angen unrhyw help arnoch gyda'ch ymchwil, cysylltwch â ni a #GofynnwchILyfrgellydd.
This guide is also available in English.
Image: The Empire Windrush, detail from a mural at the Hulme Library, Manchester. Attribution: Ceropegius / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)