Skip to Main Content

Canllaw cyflym i Microsoft Teams : Hygyrchedd

Awgrymiadau Hygyrchedd

Gwyliwch y fideos byr hyn i gael awgrymiadau defnyddiol ar nodweddion Hygyrchedd yn Microsoft Teams. 

I gael rhagor o gymorth gydag offer a gwasanaethau Hygyrchedd, cysylltwch ag aln@nptcgroup.ac.uk 

Bot Hygyrchedd

Bydd y Bot Hygyrchedd yn eich helpu i ddeall sut y gall offer Microsoft fod yn fwy hygyrch, a gweddu'n well i'ch anghenion penodol.

Ychwanegwch yr offeryn hwn a gofynnwch gwestiwn i'r bot i ddarganfod pa nodweddion Microsoft y gallwch eu defnyddio i gefnogi eich ffordd o weithio.

Darllenydd Ymdrochol

Gwyliwch y fideo byr hwn i ddysgu sut i gael postiadau, negeseuon sgwrsio, ac aseiniadau wedi'u darllen yn uchel i chi o fewn Microsoft Teams gan ddefnyddio'r Darllenydd Ymdrochol.

Gosod eich statws

Dysgwch sut i osod eich statws yn Microsoft Teams i gynorthwyo'ch ffocws a rhoi gwybod i eraill pan fyddwch ar gael neu'n brysur.

Sut i Newid Eich Thema

Canllaw cam wrth gam i newid eich thema lliw ddiofyn Teams i gynorthwyo darllenadwyedd a lleihau straen ar y llygaid.

I fynd at y gosodiadau, cliciwch ar y tri dot ar y brig ar y dde yn Teams.

Llwybrau byr bysellfwrdd

Os ydych chi'n defnyddio Teams ar y bwrdd gwaith neu ap gwe, dysgwch rai llwybrau byr bysellfwrdd i gael mynediad cyflym i nodweddion defnyddiol yn Teams. 

Gwasgwch Ctrl + Atalnod llawn (.) i weld rhestr o lwybrau byr.

Capsiynau Byw

Gwyliwch y tiwtorial cam wrth gam hwn ar sut i alluogi a defnyddio Capsiynau Byw yng nghyfarfodydd Microsoft Teams. Mae'r swyddogaeth hon yn eich helpu i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a deall yn well yr hyn sy'n cael ei ddweud.

Trawsgrifiadau

Dysgwch sut i droi Capsiynau Byw a Thrawsgrifiadau ymlaen yn Microsoft Teams. 

Gall trawsgrifio byw wneud eich cyfarfod yn fwy cynhyrchiol, yn ogystal â bod yn fwy cynhwysol i bawb. Gall hyn hefyd fod yn ddefnyddiol fel cymorth gweledol os byddwch yn mynychu'r cyfarfod o leoliad swnllyd.

Modd Ffocws

Tiwtorial ar sut i ddefnyddio Modd Ffocws a Modd Sgrin Lawn i'ch helpu chi i ganolbwyntio ar y cynnwys sy'n cael ei gyflwyno a chyfyngu ar bethau sy'n tynnu sylw.

Sut i Ddefnyddio Tasgau mewn Microsoft Teams (I'w Gwneud a'r Cynlluniwr)

Arhoswch ar y trywydd iawn gyda'ch rhestr o bethau i'w gwneud trwy ychwanegu'r Ap Tasgau at Teams i gynorthwyo cynhyrchiant.

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF