Teams yw eich ystafell ddosbarth ar-lein. Mae'n offeryn cyfathrebu a ddefnyddir gan yr holl staff a myfyrwyr. Defnyddir Teams i ddarparu gwybodaeth a deunyddiau ar gyfer eich cwrs, gosod a lanlwytho aseiniadau, cyflwyno gwersi ar-lein, a darparu adborth. Fe'i defnyddir ar gyfer trafodaeth a gweithgareddau grŵp a dyma'r brif ffordd y byddwch yn ymuno â'ch gwersi pan nad ydych ar y campws.
Mae Teams yn rhan o Microsoft 365. Mae Microsoft 365 yn gyfres o raglenni ac apiau y gallwch eu lawrlwytho i'ch cyfrifiadur personol neu ddyfais symudol. Mae'n rhoi'r holl offer sydd eu hangen arnoch i gwblhau'ch cwrs gan gynnwys MS Word, Excel, PowerPoint a Sway, 1TB o storfa cwmwl am ddim yn OneDrive, a mynediad i'ch e-bost coleg trwy Outlook. Defnyddiwch Office 365 i gael mynediad at eich gwaith o unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais.
This guide is also available in English.
I gael mynediad i Teams a'r holl offer yn eich cyfrif Microsoft 365, dilynwch y dolenni ar Moodle neu ewch i Office.com a mewngofnodi gyda'ch cyfeiriad e-bost coleg a'r cyfrinair NPTC. Anfonwyd y rhain atoch pan wnaethoch gofrestru gyntaf.
Cyfeiriad e-bost y coleg: rhif myfyriwr (a elwir hefyd yn 'god person') wedi'i ddilyn gan @nptcgroup.ac.uk e.e. 123456@nptcgroup.ac.uk
Myfyrwyr newydd: eich cyfrinair cychwynnol fydd eich rhif myfyriwr + eich cod post, e.e. 123456SA107RF (gallwch newid hyn unrhyw bryd trwy fynd i Settings yn eich cyfrif Microsoft 365 neu fewngofnodi i gyfrifiadur pan fyddwch ar y campws).
Myfyrwyr sy'n dychwelyd: parhewch i ddefnyddio'ch cyfrinair o'r llynedd.
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair gallwch ei ailosod o'r blwch mewngofnodi Microsoft 365.
Os ydych chi'n dal i gael anhawster mewngofnodi ac angen help gyda'ch cyfrinair, yna cysylltwch â'r Gwasanaethau TG
Angen mwy o help i ddefnyddio MS Teams neu hoffech chi drefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch Gofynnwch i Lyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Byddwch yn aelod o Team gwahanol ar gyfer pob dosbarth neu gwrs. Mae pob team yn gymuned ar wahân a bydd ganddo aelodau gwahanol. Os ydych wedi cofrestru ar fwy nag un cwrs, bydd gan eich tudalen Teams ddolenni i bob un ohonynt.
Mae pob myfyriwr hefyd yn aelod o'r Team Hysbysfwrdd Myfyrwyr NPTC. Yma byddwch yn gallu cysylltu â gwasanaethau cymorth, cymryd rhan mewn gweithgareddau a dod o hyd i wybodaeth hanfodol am yr hyn sy'n digwydd yn y coleg.