Mae gennym dîm o staff cyfeillgar a gwybodus yn gweithio yn y llyfrgelloedd. Galwch i mewn i'n gweld, a gallwn eich cyflwyno i'ch cyfleusterau a'ch gwasanaethau llyfrgell. Boed yn defnyddio adnoddau llyfrgell ar-lein, sut i ddod o hyd i lyfrau ar y silffoedd, neu help gyda chyfeirnodi, mae staff y llyfrgell yma i'ch cynorthwyo.
Rydym ar gael o 8.30am tan 5.00pm, dydd Llun tan ddydd Gwener i ateb eich cwestiynau a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni eich aseiniadau.
Tîm y gymuned myfyrwyr addysg uwch – A chithau’n fyfyriwr yn y coleg, byddwch yn cael eich ychwanegu’n awtomatig at Dîm y Gymuned Addysg Uwch.
Mae’r Tîm yno i’ch helpu i gael y profiad gorau posib yn y coleg ac i roi cymorth ychwanegol i chi yn ystod eich cyfnod gyda ni.
Gallwch gysylltu â staff o wahanol adrannau a gwasanaethau cymorth, a chael gwybodaeth am y coleg cyn cyrraedd. Bydd y Tîm hwn yn eich helpu: