Skip to Main Content

Canllaw llyfrgell i fyfyrwyr AU: Prifysgolion Partner

Croeso i lyfrgelloedd ein prifysgolion partner

Rydyn ni’n darparu holl werslyfrau hanfodol cyrsiau a rhywfaint o adnoddau ar-lein, ond gallwch gael gafael ar ddeunyddiau ychwanegol o lyfrgell eich prifysgol bartner hefyd.

Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau llyfrgell a’r adnoddau ar-lein mae ein partneriaid addysg uwch yn eu darparu.

Prifysgol De Cymru: cyfnodolion

 

 

 

 

Mae'r cronfeydd data a ddarperir gan wasanaethau llyfrgell USW yn ddelfrydol i chi ddod o hyd i erthyglau ysgolheigaidd ar gyfer eich ymchwil cwrs. Chwilio am erthyglau cyfnodolion gan ddefnyddio FINDit, catalog llyfrgell USW.

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu am ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar FINDit. 

Prifysgol De Cymru: e-lyfrau

USW Library logo

 

 

 

Chwiliwch am e-lyfrau ar FINDit, catalog llyfrgell PDC.   Bydd angen i chi fewngofnodi i FINDit gan ddefnyddio eich manylion myfyriwr USW. 

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu am ddod o hyd i e-lyfrau ar FINDit. 

Prifysgol Wrecsam

Gall myfyrwyr sydd wedi'u lleoli mewn sefydliadau partner gyrchu e-adnoddau tanysgrifiedig y Brifysgol. Mae'r adnoddau hyn yn darparu mynediad i ystod eang o e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data pwnc arbenigol.

 

Mewngofnodwch i Borth MyUni Wrecsam a defnyddio'r Chwilotwr Adnoddau i gael mynediad at e-adnoddau'r Brifysgol. Byddwch wedi derbyn e-bost gan y Brifysgol gyda'ch manylion mewngofnodi.  

 

UWTSD: cyfnodolion

Gall myfyrwyr sydd wedi'u lleoli mewn sefydliadau partner gyrchu e-adnoddau tanysgrifiedig y Brifysgol. Mae'r adnoddau hyn yn darparu mynediad i ystod eang o e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data pwnc arbenigol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau Llyfrgell UWTSD sydd ar gael ichi yma.

Gellir cyrchu'r adnoddau canlynol gyda mewngofnodi a chyfrinair ar wahân. Cysylltwch â ni i gael y manylion mewngofnodi.

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF