Dal Nodiadau yn OneNote, yn cynnwys defnyddio Testun, Fformat a phwyntydd neu bwyntydd digidol .
Recordio nodiadau clywedol yn OneNote ar gyfer Windows 10
I ddechrau recordiad clywedol yn eich nodiadau, gwnewch y canlynol:
Cliciwch leoliad ar y dudalen lle yr hoffech ddechrau’r recordiad clywedol.
Mae OneNote yn dechrau recordio ar unwaith. I sicrhau bod recordiad yn digwydd, sylwch ar yr amserydd cynyddol ar y tab “Recording” sy’n ymddangos.
I ddod â recordiad i’w ben, gwnewch y pethau canlynol:
Ar y tab "Recording", cliciwch ‘Stop’.
Mae OneNote yn atal y recordiad. Os hoffech ail-ddechrau’r recordiad nes ymlaen, cliciwch ar Record.
Os hoffech wrando ar recordiad clywedol yn eich nodiadau, gwnewch y pethau canlynol:
Cliciwch ddwywaith ar yr eicon Audio Recording ar unrhyw dudalen yn eich llyfr nodiadau.
Gair o gyngor: Wrth ail-wrando ar recordiad clywedol yn OneNote ar gyfer Windows 10, gallwch ddefnyddio’r allweddi rheoli ychwanegol yn y tab Audio sy’n ymddangos - yn cynnwys Pause, Back 5 Minutes, Back 15 Seconds, Forward 15 Seconds, a Forward 5 minutes.
Os nad oes angen recordiad clywedol penodol arnoch bellach, gwnewch y pethau canlynol:
Ar unrhyw dudalen, cliciwch yr eicon Audio Recording ar y de ar gyfer y recordiad yr hoffech ei ddileu.
Ar y bysellfwrdd, gwasgwch yr allwedd Dileu.
Cliciwch leoliad ar y dudalen yn OneNote lle yr hoffech roi’r recordiad ac wedyn gwnewch un o’r pethau canlynol:
I greu recordiad clywedol yn unig, cliciwch Insert > Record Audio.
I greu recordiad fideo gyda’r elfen glywedol yn opsiynol, cliciwch Insert > Record Video.
Mae recordio yn dechrau unwaith i OneNote ychwanegu’r eicon cyfryngau at y dudalen.
I roi terfyn ar y recordiad, gwasgwch Pause neu Stop ar y tab Audio & Video.
I wrando ar recordiad, cliciwch yr eicon cyfryngau ar y tudalen ac wedyn cliciwch Play.
Os ydych yn cymryd nodiadau yn ystod y recordiad, fe’u cysylltir â’r recordiad clywedol a’r fideo a grëwyd gydag OneNote. Gallwch felly wneud chwiliad trwy ddewis Search notes in OneNote ac felly’n dod o hyd i ddarnau penodol yn y recordiad clywedol neu’r fideo.
Mae OneNote yn cael ei drefnu fesul Llyfrau Nodiadau, Adrannau a Thudalennau yn debyg i lyfr nodiadau printiedig â rhwymiad troellog.
Am ragor o fideos hyfforddi ewch i dudalen hyfforddi Microsoft OneNote.
Bydd angen i chi gadw eich gwaith â llaw ar OneNote Desktop. Os hoffech gadw eich gwaith yn awtomatig yn OneDrive o OneNote Desktop, bydd gofyn i chi troi’r nodwedd hwn ymlaen. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud hyn fan hyn.
Efallai y mae nifer o resymau am fethu â dod o hyd i’ch llyfr nodiadau OneNote. Os ydych yn gweithio ar lyfrau nodiadau ar-lein ac oddi ar-lein ar yr un pryd, efallai nad ydynt yn cysoni’n iawn a bydd angen i chi eu cysoni â llaw eich hunain.
Gall hyn gael ei wneud yn OneNote Desktop trwy fynd i “File”, “Info”, ac wedyn trwy ddewis "View Sync Status".
Gallwch weld yr holl lyfrau nodiadau sydd ar gael i chi fan hyn trwy glicio ar "Sync Now", dylai hyn adfer eich gwaith.
Os ydych yn dal i gael trafferth, ewch i dudalennau cymorth Microsoft Office, sy’n dangos atebion ar gyfer yr anawsterau mwyaf cyffredin wrth ddod o hyd i ffeiliau OneNote sydd wedi mynd ar goll.