Mae OneNote yn gymhwysiad cymryd nodiadau sydd yn eich galluogi i greu llyfrau nodiadau digidol.
Meddyliwch am Lyfr Nodiadau A4 gyda thabiau a wneir yn rhannau a dyma hanfodion OneNote yn syml. Sut bynnag, mae nifer o declynnau ychwanegol sy’n rhan annatod ohono ac sy’n helpu gyda threfniant a chynhyrchiant, gan gynnwys opsiynau chwilio i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym o fewn i’ch llyfr nodiadau, nodweddion arddweud ac mewnosod ar ffurf rhydd o destunau a delweddau i enwi ond ychydig ohonynt.
Gall hefyd gysoni â’r cwmwl a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i’ch nodiadau o unrhyw ddyfais neu eu rhannu ag eraill.
Mae OneNote yn rhan o Microsoft Office 365. Mae Office 365 yn gyfres o raglenni a chymwsiadau y gallwch eu lawr lwytho i’ch CP neu’ch dyfais symudol. Mae’n rhoi’r holl offer sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cwrs gan gynnwys; MS Word, Excel, Pwerbwynt, a Sway, 1TB o storio ar y cwmwl am ddim yn OneDrive, a mynediad i;ch e-bost yn y coleg trwy Outlook. Defnyddiwch Office 365 i gael mynediad i’ch gwaith o unrhyw le ac o unrhyw ddyfais.
Cewch bip yn gyflym ym i weld sut y gall OneNote eich helpu gyda’ch astudiaethau. 11 dull o reoli OneNote.
I gael mynediad i OneNote a’r holl declynnau yn eich cyfrif 365, dilynwch y cysylltiadau ar Moodle neu ewch i Office.com ac mewngofnodwch gyda eich cyfeiriad e-bost yn y coleg a’ch cyfrinair NPTC.
Cyfeiriad e-bost y coleg: rhif myfyriwr ac wedyn @nptcgroup.ac.uk. e.e. 123456@nptcgroup.ac.uk.
Myfyrwyr newydd: eich cyfrinair yn y lle cyntaf yw eich rhif myfyriwr a’ch cod post, e.e. 123456SA107RF (gallwch newid hyn unrhyw bryd wrth fewngofnodi ar CP ar safle’r coleg).
Myfyrwyr sy’n dychwelyd: parhau i ddefnyddio’r un cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych y llynedd.
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, cysylltwch â Gwasanaethau TG
Y ffordd haws o gadw trefn ar eich nodiadau yw trwy lawr lwytho’r ap MS Onenote ar gyfer iOS neu Android. Bydd hyn yn eich helpu i ychwanegu at neu adolygu eich nodiadau ar hyd y lle a’ch helpu i gadw pethau’n drefnus a chadw ar drac.
Lawr lwytho’r ap:
Mae’r canllaw hwn yn ystyried defnyddio OneNote at ddefnydd personol, peidiwch â’i ddrysu â ClassNote.
Bydd rhai cyrsiau yn defnyddio ClassNote, sy’n fersiwn uwch o OneNote ond wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio mewn cyd-destun dosbarthiadau. Mae bron yr un peth ag Onenote ond wedi’i greu gan eich tiwtor a bydd modd gweithio’n gydweithrediadaol gyda’ch dosbarth.
Gall yr adrannau yn eich Llyfr Nodiadau ClassNote gynnwys:
Llyfrau Nodiadau Myfyrwyr — llyfrau nodiadau preifat a rennir rhwng pob athro â’u myfyrwyr unigol. Gall athrawon gael mynediad i’r llyfrau nodiadau hyn unrhyw bryd, ond ni all myfyrwyr weld llyfrau nodiadau myfyrwyr eraill.
Llyfrgell Cynnwys — llyfr nodiadau i athrawon rannu deunydd cyrsiau â myfyrwyr. Gall athrawon ychwanegu a golygu’r deunydd ond mae’r llyfr â statws darllen yn unig ar gyfer myfyrwyr.
Parth Cydweithredu — llyfr nodiadau y gall pob myfyriwr a’r athro mewn dosbarth ei rannu, ei drefnu a chyfrannu ato.
Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.