Bydd datblygu sgiliau ymchwil da yn eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth a'i defnyddio'n effeithiol. Mae'r adran hon yn cynnwys rhai awgrymiadau ar ddod o hyd i wybodaeth a'i defnyddio.
Mae mwy o wybodaeth fanwl am ddod o hyd i wybodaeth a thechnegau chwilio ar gael ar y dudalen Sgiliau Ymchwil.
Am ragor o gymorth defnyddiwch ein gwasanaeth Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch libraries@nptcgroup.ac.uk i drefnu sesiwn gyda Chynghorydd Llyfrgell.
Bydd hyn yn arbed amser ac ymdrech yn y pen draw. Treuliwch amser yn egluro eich tasg ac yn datblygu eich strategaeth chwilio cyn ceisio gwneud unrhyw waith ymchwil neu ysgrifennu.
Byddwch yn glir ynghylch beth rydych eisiau ei ddysgu. Dadansoddwch eich teitl a dewis cysyniadau i’w defnyddio fel geiriau allweddol wrth chwilio
Wrth gychwyn ar eich ymchwil mae'n syniad da defnyddio gwyddoniaduron a geiriaduron pwnc i'ch helpu i gael dealltwriaeth sylfaenol o’ch pwnc. Bydd y darllen cefndirol hwn yn rhoi syniadau i chi am gysyniadau a geiriau allweddol. Ystyriwch eiriau neu ymadroddion posibl eraill y gellid eu defnyddio i ddisgrifio eich pwnc a llunio rhestr o eiriau allweddol. Gall hyn gynnwys cyfystyron a thermau cysylltiedig, termau Americanaidd neu sillafiadau, geiriau lluosog, acronymau a byrfoddau.
Rhowch seren ar ddiwedd bôn y gair * e.e.
Nid yw pob cronfa ddata yn defnyddio seren* fel symbol cwtogi. Defnyddiwch adran help y gronfa ddata i wirio pa symbol i'w ddefnyddio.
Newidiwch lythyren am farc cwestiwn e.e.
Nid yw pob cronfa ddata yn defnyddio marc cwestiwn ? fel nod-chwiliwr. Defnyddiwch adran help y gronfa ddata i wirio pa symbol i'w ddefnyddio.
Amgaewch eich ymadrodd mewn dyfynodau:
e.e. "financial impact"
Bydd eich canlyniadau yn fwy penodol a pherthnasol i'ch chwiliad.
Mae'r dudalen chwilio uwch yn ffordd haws o ddefnyddio'r holl dechnegau chwilio uwch y buom yn edrych arnynt yn gynharach, heb orfod cofio unrhyw un ohonynt!
Byddwch yn cael canlyniadau gwell os ydych yn cysylltu eich geiriau allweddol gan ddefnyddio gweithredwyr Boole. Rydym yn eu defnyddio i wneud chwiliad yn fwy penodol, yn enwedig pan fydd y pwnc yn cynnwys nifer o dermau chwilio. Maen nhw'n:
Mae cysylltu geiriau gan ddefnyddio AND yn dweud wrth y peiriant chwilio i chwilio am ganlyniadau sy'n cynnwys y ddau air.
Mae'r ardal dywyllach yn cynrychioli'r wybodaeth rydych ei heisiau, gyda'r gair 'Puppy' a'r gair 'Kitten' ynddynt.
Mae cysylltu geiriau gan ddefnyddio OR yn dweud wrth y peiriant chwilio i chwilio am ganlyniadau sy'n cynnwys unrhyw un o’r geiriau allweddol.
Bydd eich chwiliad yn dychwelyd canlyniadau sy'n cynnwys y naill air neu'r llall, neu'r ddau
Mae cysylltu geiriau gan ddefnyddio NOT yn dweud wrth y peiriant chwilio i chwilio am ganlyniadau sy'n cynnwys un o’ch geiriau allweddol ond nid y llall.
mae Google yn defnyddio'r arwydd minws ar gyfer NOT
Mae'r canllaw pwnc hwn yn dwyn ynghyd adnoddau sy'n benodol i'ch pwnc. I gael rhagor o adnoddau, archwiliwch ein Llyfrgell Ar-lein, casgliad o adnoddau sy'n rhoi mynediad i chi i erthyglau cyfredol ar-lein, e-lyfrau ac e-adnoddau eraill.