Mannau eraill i barhau â'ch chwiliad a bodloni eich chwilfrydedd.
Rydym wedi darparu rhai dolenni i wefannau sy'n addas ar gyfer eich cwrs.
Cofiwch, wrth ddefnyddio gwefannau am ddim ar gyfer ymchwil, dylech bob amser werthuso ansawdd yr wybodaeth a welwch gan ddefnyddio meini prawf fel y prawf CRAAP. I gael cyngor a gwybodaeth am sut i werthuso gwybodaeth, ewch i'n cwrs Sgiliau Ymchwil ar Moodle.
Rydym wedi darparu rhai dolenni i wefannau sy'n addas ar gyfer eich cwrs.
Wrth ddefnyddio gwefannau am ddim at ddiben ymchwil, cofiwch bob amser y dylid gwerthuso ansawdd yr wybodaeth y dewch o hyd iddi gan ddefnyddio meini prawf fel y prawf CRAAP. I gael cyngor a gwybodaeth am sut i werthuso gwybodaeth, ewch i'n cwrs Sgiliau Ymchwil ar Moodle.
Trin Gwallt
Mae Hair Council yn ymroddedig i greu'r enw da proffesiynol y mae'r diwydiant gwallt yn ei haeddu. Yn bwyllgor o'r enwau mwyaf eu bri yn y diwydiant, ynghyd â chynrychiolwyr rhai o gwmnïau mwyaf dylanwadol y diwydiant trin gwallt, mae'n cwrdd bob tri mis i chwilio am ffyrdd o godi proffil a hybu hunan-reoleiddio yn y diwydiant trin gwallt.
British Barbers' Association (BBA) yw llais barbwyr, salonau harddwch dynion a trinwyr gwallt dynion, ac mae'n gweithio gydag adrannau'r llywodraeth, cynghorau'r sector sgiliau ac arloeswyr i siapio dyfodol y diwydiant, addysg a hyfforddiant. Rydym yn cynrychioli lleisiau ein haelodau, gan ddod â gweithwyr proffesiynol sydd â'r un feddylfryd ynghyd, y maent wedi'u hymroi i ddatblygiad parhaus a safonau uchel i sicrhau bod y diwydiant gwaith barbwr yn 'BBA - better beyond all'.
Harddwch a Therapïau Cymhwysol
I dderbyn y newyddion diweddaraf am dueddiadau, nwyddau ac arloesiadau cyfoes:
- Mynediad i erthyglau o safon a ysgrifennir yn dda gan dîm golygyddol profiadol
- Tyfu eich busnes diolch i gynnwys llawn ysbrydoliaeth
- Cyngor nodedig gan arbenigwyr ar sut i redeg busnes salon neu sba
Mae Massage Therapy Foundation yn hybu gwybodaeth ac arfer therapi tylino trwy gefnogi ymchwil wyddonol, addysg a gwasanaeth cymunedol.
Yr adnodd byd-eang i Weithwyr Sba Proffesiynol: proffiliau cwmni a rhagfynegiadau i'r diwydiant, a'r Cyfeiriadur Sbâu.
Mae BABTAC yn cynnig yswiriant ac aelodaeth i fyfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau ynghyd ag astudiaethau achos.
Wrth gyflawni astudiaethau achos gall unrhyw driniaethau sy'n cael eu perfformio y tu allan i'r coleg eich gadael yn gyfreithiol atebol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo pobl eraill, neu honiadau o achosi anaf, niwed neu golled ariannol.
Mae'r goblygiadau'n ddifrifol a gallant arwain at ddistryw ariannol ac i'ch enw da.
Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ddiogelu eich hun a'ch cleientiaid trwy gydol eich astudiaethau.
Y Diwydiant Gwallt a Harddwch
Mae Habia wedi'i gydnabod gan y llywodraeth fel y Corff Gosod Safonau (CGS) ar gyfer y sectorau gwallt, harddwch, ewinedd, sba ac esthetig. Ers dros dri deg mlynedd rydym wedi bod wrthi'n datblygu safonau cenedlaethol sy'n ffurfio sail i gymwysterau ar draws y Deyrnas Unedig.
NHBF yw cymdeithas fasnach fwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer perchnogion salonau trin gwallt, gwaith barbwr a harddwch. Mae gennym dros 75 mlynedd o brofiad ac fel sefydliad nid er elw gallwch ddibynnu arnom i'ch helpu chi a'ch busnes.
Ydych chi'n ystyried dechrau eich busnes eich hun?
O ddatblygu cynlluniau busnes, i drefnu cyllid a recriwtio staff ychwanegol, gall ein timau ymgynghorol ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi i helpu eich busnes i dyfu a mwyafu ei botensial.