Mae llyfrau yn rhoi cipolwg ar eich pwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd. Maent yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau.
Chwiliwch gatalog y llyfrgell am y llyfrau sydd eu heisiau arnoch, neu cewch bip ar ein hargymhellion ar gyfer eich pwnc.
Clicio a Chasglu
Defnyddiwch gatalog y llyfrgell i ddod o hyd i'r llyfrau sydd eu hangen arnoch.
Edrychwch ar statws y llyfr i weld a yw ar gael neu ar fenthyg.
Os yw'r llyfr ar gael, gwnewch nodyn o'r lleoliad a'r marc silff (lle byddwch yn dod o hyd i'r llyfr ar y silffoedd).
Os yw'r copïau o'r llyfr sydd ei angen arnoch ar fenthyg gallwch ofyn am gopi gan y llyfrgell.
Prif farciau silffoedd ar gyfer Trin Gwallt a Therapïau Cymwysol
612 Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer Therapyddion
615 Therapi Cyflenwol
646 Trin Gwallt
646.72 Rheoli Salonau
646 Harddwch a Therapi Cymhwysol
Mae'r llyfrau hyn a argymhellir ar gael i chi eu benthyg o'r llyfrgell.
Os oes rhywbeth ar goll o'n llyfrgell gadewch i ni wybod. Argymell llyfr i ni ei brynu ar gyfer y llyfrgell.
Mae ein casgliadau o e-lyfrau yn darparu mynediad 24/7 at y deunyddiau dysgu ac ymchwil sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs
Ewch i'n tudalen e-lyfrau ar Moodle neu chwilio yng nghatalog y llyfrgell am e-lyfrau.
Chwilio catalog y llyfrgell am lyfrau, e-lyfrau, DVDs