Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Gall feddwl am fywyd ar ôl y coleg fod braidd yn ddychrynllyd. Mae cynifer o bethau i'w hystyried wrth benderfynu ar yr hyn yr hoffech ei wneud gyda’ch bywyd.
Mae’r canllaw hwn yn dod ag adnoddau at ei gilydd i'ch helpu i ymbaratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn dod o hyd i adnoddau a fydd yn eich helpu i ddarganfod gwybodaeth am gyflogwyr arfaethedig, sut i ymgeisio am swyddi a sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau.
Os ydych yn gwneud cais am swydd, ystyried prentisiaeth neu parhau i astudio, mae’n bwysig gwneud eich ymchwil ymlaen llaw. Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.