Bydd gwybod y diweddaraf am ddatblygiadau a newyddion o fewn i sefydliad penodol yn eich helpu i gwblhau ffurflen gais lwyddiannus a gofyn cwestiynau deallus a pherthnasol mewn cyfweliad.
Bydd cyflogwyr eisiau i chi ddangos eich bod yn deall y sefydliad a’ch bod wedi ymchwilio i'w hanes a’i strategaeth. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd fod yn ymwybodol o unrhyw faterion cyfoes gwleidyddol neu economaidd a allai effeithio ar y sefydliad.
Bydd y cronfeydd data a chwilotwyr canlynol yn gadael i chi chwilio ar draws sawl ffynhonnell yn gyflym a chael mynediad i newyddion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.