OneDrive yw gwasanaeth cwmwl Microsoft sy'n eich cysylltu â'ch holl ffeiliau. Mae'n caniatáu ichi storio a diogelu'ch ffeiliau, eu rhannu ag eraill, a'u cyrraedd o unrhyw le ar eich holl ddyfeisiau.
Mae OneDrive yn rhan o Microsoft Office 365. Mae Office 365 yn gyfres o raglenni ac apiau y gallwch eu lawrlwytho i'ch cyfrifiadur personol neu ddyfais symudol. Mae'n rhoi'r holl offer sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cwrs gan gynnwys, MS Word, Excel, PowerPoint a Sway, Teams, a mynediad i'ch e-bost coleg trwy Outlook. Defnyddiwch Office 365 i gael mynediad i'ch gwaith o unrhyw le ac unrhyw ddyfais.
I gael mynediad i OneDrive a’r holl declynnau yn eich cyfrif 365, dilynwch y cysylltiadau ar Moodle neu ewch i Office.com ac mewngofnodwch gyda eich cyfeiriad e-bost yn y coleg a’ch cyfrinair NPTC.
Cyfeiriad e-bost y coleg: rhif myfyriwr ac wedyn @nptcgroup.ac.uk. e.e. 123456@nptcgroup.ac.uk.
Myfyrwyr newydd: eich cyfrinair yn y lle cyntaf yw eich rhif myfyriwr a’ch cod post, e.e. 123456SA107RF (gallwch newid hyn unrhyw bryd wrth fewngofnodi ar CP ar safle’r coleg).
Myfyrwyr sy’n dychwelyd: parhau i ddefnyddio’r un cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych y llynedd.
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, cysylltwch â Gwasanaethau TG
Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Gallwch ddewis defnyddio O365 ar-lein ond bydd lawrlwytho'r apiau i'ch dyfais yn datgloi mwy o ymarferoldeb nag a gewch yn y fersiwn ar-lein.
Lawrlwytho i gyfrifiadur personol neu liniadur Windows: mewngofnodwch i O365 ac yna cliciwch ar y botwm 'Install Office' ar ochr dde'r hafan.
Lawrlwytho i ddyfeisiau symudol:
Gallwch lawrlwytho'r Microsoft Office 365 yn siop Apple neu Google Play, neu gallwch lawrlwytho apiau ar wahân ar gyfer pob un o'r offer O365 i ddyfeisiau iOS neu Android. Chwiliwch am yr apiau unigol yn ôl enw, e.e. Outlook, Microsoft Teams, Microsoft Word, ac ati. Mae'r holl apiau yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho. Ar ôl ei osod, mewngofnodwch unwaith gyda'ch cyfeiriad e-bost coleg a'ch cyfrinair.