Skip to Main Content

Niwroamrywiaeth

Beth yw Niwroamrywiaeth?

Diagram cylchol gyda Niwroamrywiaeth yn y canol wedi'i amgylchynu gan y geiriau Dyscalcwlia, Dyslecsia, ADHD, Syndrom Tourette, Niwroamrywiaeth Caffaeledig, Iechyd Meddwl, Awtistiaeth a DCS/Dyspracsia     Mae niwroamrywiaeth yn derm sy'n disgrifio'r ystod o wahaniaethau rhwng swyddogaeth ymennydd unigol a nodweddion ymddygiadol ac fe'i hystyrir yn rhan o amrywiad arferol y boblogaeth ddynol.

Bathodd Judy Singer, cymdeithasegydd o Awstralia, y term niwroamrywiaeth i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant "lleiafrifoedd niwrolegol." Fe'i defnyddir yn aml i ddisgrifio pobl sy'n prosesu gwybodaeth yn wahanol i'r person 'cyfartalog' (Niwro-nodweddiadol). Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) a Dyslecsia.

Mae gan bobl sy'n Niwroamrywiol lawer o gryfderau a gwendidau ac nid oes unrhyw ddau berson yr un fath. Er bod hyn yn wir am bawb, mae unigolion niwroamrywiol yn wynebu llawer o heriau mewn cymdeithas sydd wedi'i chynllunio ar gyfer ymennydd niwro-nodweddiadol. Mae'r gwahaniaethau hyn mewn ymddygiad a disgwyliadau cymdeithas o'r hyn sy'n ‘normal’ wedi arwain at stigma, camddealltwriaeth a gwahaniaethu.

Mae codi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth yn ein hannog ni i weld pob unigolyn yn unigryw gyda’i gryfderau a’i heriau ei hun a bydd yn arwain at gymdeithas fwy cynhwysol a theg i bawb.

Nid yw'r detholiad hwn yn rhestr ddarllen gyflawn o bell ffordd, ac nid yw i fod felly chwaith. Os ydych chi eisiau dod o hyd i ragor o lyfrau a gwybodaeth am y pwnc hwn a bod arnoch chi angen unrhyw help gyda'ch ymchwil, cysylltwch â ni a #GofynILyfrgellydd.

This guide is also available in English.

Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth

 

Mae’r Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn digwydd bob mis Mawrth

Mae'n herio stereoteipiau a chamsyniadau am wahaniaethau niwrolegol a'i nod yw trawsnewid sut mae unigolion niwro-wahanol yn cael eu gweld a'u cefnogi mewn ysgolion, prifysgolion a sefydliadau.

Ceir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan.

Help a Chefnogaeth

Os hoffech chi siarad â rhywun am unrhyw un o’r materion a godwyd yn y canllaw hwn, anfonwch e-bost at
studentwellbeing@nptcgroup.ac.uk

Os oes gennych chi ddiagnosis ac yr hoffech weld pa gymorth y gellid ei gynnig, anfonwch e-bost at
aln@nptcgroup.ac.uk

Os nad oes gennych chi ddiagnosis ond yr hoffech gael cymorth gyda’ch astudiaethau, anfonwch e-bost at 
studyskillscoach@nptcgroup.ac.uk

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF