Mannau Diogel Grŵp Colegau NPTC
Mae ein llyfrgelloedd coleg yn darparu mannau diogel a chynnes. Maent yn lleoedd croesawgar y gallwch fynd iddynt os ydych yn chwilio am ychydig o amser tawel, neu le i weithio, astudio neu dim ond cyfarfod â ffrindiau. Fel myfyriwr coleg, mae gennych wi-fi am ddim, mynediad i gyfrifiaduron personol a phwyntiau gwefru.
Yn y gaeaf, maent yn fannau cynnes. Pan fyddwn ar agor yn ystod gwyliau’r coleg, mae croeso i chi ddod â’ch byrbrydau a’ch diodydd eich hun i mewn i’r llyfrgell, ac rydym hefyd yn darparu te a choffi am ddim.
Mae’r canllaw hwn hefyd yn dwyn ynghyd restr o’r mannau cynnes a digwyddiadau sydd ar gael i chi yn eich cymuned leol a rhywfaint o wybodaeth ychwanegol i helpu gyda chostau byw.
This guide is also available in English.
Am sawl rheswm, efallai y bydd llawer ohonon ni yn ffeindio’r Nadolig yn gyfnod anodd eleni ond gall NPTC ddal i gynnig cymorth dros wyliau’r Nadolig!
Mae nifer o Adnoddau ar gael ar ein tudalennau Moodle ‘Student Support’ y gellir cael mynediad atynt trwy wefan y Coleg.
Mae Student Kooth yn wasanaeth llesiant ar-lein sy’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd, sesiynau cwnsela a sgyrsiau galw heibio y tu allan i oriau arferol y coleg, neu dros y penwythnos hyd yn oed. Ewch i Student Kooth i fewngofnodi.
…ac wrth i chi ddychwelyd i’r coleg, bydd y tîm cwnsela yn ail-afael yn ei wasanaethau, wyneb yn wyneb neu trwy Teams, felly anfonwch e-bost os oes angen counsellorreferral@nptcgroup.ac.uk

Gall myfyrwyr Grŵp NPTC fod yn gymwys i gael taliad nad yw’n ad-daladwy o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) a all gefnogi gyda phrydau coleg, ad-daliadau offer cwrs, tocyn bws neu ad-daliadau teithio, a thaliadau gofal plant i’ch gwarchodwr plant.
Gallwch gysylltu â'r tîm Cymorth i Fyfyrwyr ar studentsupport@nptcgroup.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am gyllid arall.
Mae llyfrgelloedd y coleg ar agor yn ystod wythnos dysgu o bell, dydd Llun 18 - dydd Mercher 20 Rhagfyr os ydych chi'n chwilio am le tawel i ymuno â'ch gwersi ar-lein.
| Afan | 8.30 - 4.30 |
| Castell-nedd | 8.30 - 4.30 |
| Y Drenewydd | 8.30 - 4.30 |
| Y Gaer, Bannau Brycheiniog | 8.30 - 4.00 |
Bydd llyfrgelloedd y coleg ar gau yn ystod gwyliau’r Nadolig ac yn ailagor ddydd Llun 8 Ionawr, 2024. Mae eich llyfrgell gyhoeddus leol hefyd yn fan diogel cynnes a chroesawgar. Dysgwch am eich llyfrgell leol yma.
Bereavement
Social Services
Neath Port Talbot Social Services
Powys Social Services
Police Forces