
Mae'n debyg eich bod yn teimlo'n nerfus ac yn gyffrous am eich diwrnod cyntaf yn y coleg. Peidiwch â phoeni, mae pawb arall yn teimlo’r un fath hefyd! Bydd digon o staff cyfeillgar a llysgenhadon myfyrwyr wrth law i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch y coleg.
Mae’r dyddiau cyntaf yn cael eu treulio yn eich croesawu i'r coleg. Byddwch yn cael cwrdd â'ch darlithwyr a'ch cydfyfyrwyr, mynd ar daith o amgylch y coleg, a darganfod y pethau pwysig, fel sut i gysylltu â'r wi-fi a ble i gael coffi.
Anfonir gwybodaeth atoch chi’n dweud wrthych ble i fynd ar eich diwrnod cyntaf. Os nad ydych wedi derbyn yr wybodaeth cyn dechrau'r tymor, anfonwch e-bost at: studentsupport@nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch ni ar (03308) 188100
Mae llawer o wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i ddechrau yn y coleg, a bydd y canllaw yma’n eich helpu i ddechrau arni. Bydd llawlyfr y myfyrwyr yn darparu canllaw llawn i fywyd yn y coleg ar gael ar wefan y coleg ddiwedd mis Mehefin.
This guide is also available in English