Dewch i un o'n nosweithiau ffilm AM DDIM i gael ychydig o bizza, diodydd pefriog, gwefru'ch dyfeisiau, gwylio ffilm a sgwrsio â myfyrwyr a staff eraill. Croeso i bawb.
Dydd Mercher: Castell-nedd a'r Drenewydd
Dydd Iau: Afan a Bannau Brycheiniog
Rhaid archebu lle (fel ein bod yn gwybod faint o bizza i'w archebu). Cliciwch ar y dolenni yn y calendr isod i gadw eich lle.
Mae eich llyfrgell gyhoeddus leol bob amser wedi darparu lle cynnes, cyfeillgar a chroesawgar.
Mae gennych fynediad i'r holl gyfleusterau llyfrgell arferol, gan gynnwys mynediad am ddim i lyfrau, papurau newydd, cyfleusterau cyfrifiadurol, wi-fi, cymorth digidol, a lle tawel i weithio, astudio neu eistedd mewn llonyddwch.
Mae croeso i chi ar unrhyw adeg yn ystod eu horiau agor arferol, a gallwch hefyd gael awgrymiadau a chyngor ymarferol ar arbed costau ynni, cadw’n ddiogel ac yn gynnes gartref, a chael eich cyfeirio at bartneriaid ac asiantaethau cymunedol defnyddiol eraill am gymorth ychwanegol.
Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i'ch llyfrgell leol.