yn dangos yr hyn rydych wedi'i ddarllen ac yn caniatáu i eraill nodi'r ffynonellau rydych wedi'u defnyddio
yn dangos eich bod wedi darllen yn eang ac wedi deall y pwnc
yn rhoi tystiolaeth ategol ar gyfer eich syniadau, eich barn a'ch dadleuon
yn cydnabod gwaith pobl eraill
yn osgoi llên-ladrad drwy ei gwneud yn glir pa rai yw eich syniadau chi a pha rai sy'n syniadau i rywun arall
Bwriad y canllaw hwn yw cyflwyno’r broses gyfeirnodi i chi yng nghyd-destun deall arferion academaidd da a gonestrwydd academaidd. Rydym eisiau sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol i lunio gwaith ysgrifenedig gonest, ac osgoi llên-ladrad. Mae deall sut i ddefnyddio gwaith pobl eraill yn sgil y byddwch yn ei ddysgu yn y coleg ac yn mynd ag ef gyda chi i Addysg Uwch neu'r gweithle. Gydag arferion academaidd a sgiliau cyfeirnodi da, ni fydd llên-ladrad yn rhywbeth i chi boeni amdano.
Mae'n werth nodi nad ystyrir bod pob syniad yn perthyn i bobl eraill, ac fel arfer ffeithiau, dyddiadau a digwyddiadau yw'r rhain sy'n cael eu hadnabod yn gyffredinol gan rywun sy'n astudio pwnc penodol. Mae hyn yn wybodaeth gyffredin ac nid oes angen i chi ei cyfeirnodi.
Mae'r canllaw hwn yn rhestru'r ffynonellau y byddwch yn eu defnyddio amlaf wrth ysgrifennu eich aseiniadau. Nid yw'n cynnwys yr holl ffynonellau posibl y gallech fod am eu defnyddio.
Gofynnwch i lyfrgellydd am help gydag unrhyw beth nad ydych yn siŵr yn ei gylch neu cysylltwch â ni drwy e-bostio libraries@nptcgroup.ac.uk
Dylech gael sesiwn gweithdy llyfrgell ar gyfeirio yn eich blwyddyn gyntaf yn y coleg. Gallwch hefyd fynd i sesiynau galw heibio yn y llyfrgell neu archebu sesiwn un-i-un gyda Chynghorydd Llyfrgell profiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Moodle Llyfrgelloedd.
Cyfres o ganllawiau yw system neu arddull cyfeirnodi sy'n dangos i chi pa wybodaeth sydd ei hangen mewn cyfeiriad a pha fformat y dylech ei ddefnyddio, yn eich testun ac yn eich rhestr gyfeirio ar ddiwedd y ddogfen. Mae Grŵp NPTC yn defnyddio system gyfeirnodi Harvard yn bennaf:
Awdur-Dyddiad (e.e. Harvard): Rhoddir cyfenwau a blwyddyn cyhoeddi'r awdur yn y testun a rhoddir rhestr gyfeirio/llyfryddiaeth yn nhrefn yr wyddor ar y diwedd.
Mae rhai adrannau'n defnyddio systemau gwahanol:
Rhifiadol (e.e. Vancouver ar gyfer Cyfrifiadura a TG): Mae rhif uwchysgrif yn y testun yn cyfeirnodi at restr gyfeirnodi gyda rhifau ar ddiwedd y ddogfen.
Llyfryddiaeth-Troednodyn (e.e. MHRA ar gyfer Hanes): Mae rhif uwchysgrif yn y testun yn cyfeirnodi at y troednodiadau a geir ar waelod pob tudalen a rhoddir rhestr gyfeirio/llyfryddiaeth yn nhrefn yr wyddor ar y diwedd.
Bydd eich darlithwyr yn cadarnhau pa system y dylech ei defnyddio.