Skip to Main Content

Drama a'r Celfyddydau Perfformio: Llyfrau’r llyfrgell

Canllaw i fyrfyrwyr sy'n astudio Drama a'r Celfyddydau Perfformio gyda Grŵp Colegau NPTC.

Llyfrau

Mae llyfrau yn rhoi cipolwg ar eich pwnc ac yn darparu gwybodaeth am gysyniadau a damcaniaethau craidd.  Maent yn fan cychwyn da ar gyfer eich aseiniadau.

Chwiliwch gatalog y llyfrgell am y llyfrau sydd eu heisiau arnoch, neu cewch bip ar ein hargymhellion ar gyfer eich pwnc.

Clicio a Chasglu

Dechrau arni

Sut mae dod o hyd i'r llyfrau sydd eu hangen arnaf? 

Defnyddiwch gatalog y llyfrgell i ddod o hyd i'r llyfrau sydd eu hangen arnoch.

Edrychwch ar statws y llyfr i weld a yw ar gael neu ar fenthyg. 

Os yw'r llyfr ar gael, gwnewch nodyn o'r lleoliad a'r marc silff (lle byddwch yn dod o hyd i'r llyfr ar y silffoedd).

Os yw'r copïau o'r llyfr sydd ei angen arnoch ar fenthyg gallwch ofyn am gopi gan y llyfrgell.

Prif farciau silffoedd ar gyfer Drama a'r Celfyddydau Perfformio

782               Cerddoriaeth Leisiol

790.2             Y Celfyddydau Perfformio yn gyffredinol

792                Cyflwyniadau Llwyfan

792.8             Bale a Dawns Fodern

792.9             Cynyrchiadau Llwyfan 

Rhestrau darllen

Mae'r llyfrau hyn a argymhellir ar gael i chi eu benthyg o'r llyfrgell.

Awgrymu llyfr

Os oes rhywbeth ar goll o'n llyfrgell gadewch i ni wybod.  Argymell llyfr i ni ei brynu ar gyfer y llyfrgell.

 

Dod o hyd i lyfrau

Chwilio catalog y llyfrgell am lyfrau, e-lyfrau, DVDs

E-lyfrau

Mae ein casgliadau o e-lyfrau yn darparu mynediad 24/7 at y deunyddiau dysgu ac ymchwil sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs

Ewch i'n tudalen e-lyfrau ar Moodle neu chwilio yng nghatalog y llyfrgell am e-lyfrau.    

 

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF