Rydyn ni’n gwybod bod arholiadau ac adolygu yn gallu bod yn heriol mewn pob math o ffyrdd, felly i’ch cefnogi chi drwy’ch rhai chi, dyma ganllaw adnoddau ar Adolygu ar gyfer Arholiadau, yn delio â phynciau fel:
• Technegau adolygu
• Delio â straen arholiadau
• Cymhorthion Cof
..yn ogystal â rhestrau darllen llyfrgelloedd ac e-lyfrau.
Os ydych chi eisiau dod o hyd i ragor o lyfrau a gwybodaeth am y pwnc yma ac angen unrhyw help gyda'ch ymchwil, cysylltwch â ni a #HoliLlyfrgellydd
This guide is also available in English
Angen mwy na chanllaw hunangymorth? Mae gan y Coleg Wasanaeth Cwnsela proffesiynol. Mae cwnselwyr wedi'u lleoli mewn Parthau Myfyrwyr ac yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i fyfyrwyr ar draws pob safle. Mae gan y cwnselwyr gymwysterau proffesiynol, maen nhw’n cadw at God Moeseg BACP ac mae ganddyn nhw brofiad helaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd. Gallwch gael mynediad i'r gwasanaeth drwy broses atgyfeirio, gallwch hunangyfeirio neu gael eich cyfeirio gan eich tiwtoriaid. Mae’r cwnsela’n cael ei ddarparu ar sail model chwe sesiwn ac mae’r tîm yn cysylltu’n agos â phartneriaid allanol arbenigol.
I gael help pellach gallwch gysylltu â'r Hyfforddwyr Sgiliau Astudio ar: