Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan wahaniaethu rhywiol neu aflonyddu, mae staff yn y coleg ar gael i’ch cefnogi chi. Cysylltwch â’r staff Cefnogi Myfyrwyr os oes arnoch chi angen cyngor am y gefnogaeth sydd ar gael: studentsupport@nptcgroup.ac.uk
Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell? Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch ni: libraries@nptcgroup.ac.uk.
Gorymdaith Diwrnod y Merched
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn cael ei ddathlu ar 8fed Mawrth yn flynyddol ledled y byd.
Cynhaliwyd gwrthdystiadau cyntaf Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn 1911 ledled Ewrop wedi’u hysgogi gan y mudiad pleidlais i ferched.
Mae merched wedi brwydro dros lawer o’r hawliau sydd ganddynt heddiw drwy gydol hanes: yr hawl i bleidleisio, i addysg, i fod yn berchen ar eiddo ac i weithio, a llawer mwy.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn dathlu cyflawniadau merched ac yn tynnu sylw at faterion parhaus fel hawliau merched, cydraddoldeb rhywedd, a thrais a cham-drin yn erbyn merched.
Nid yw’r detholiad yma’n rhestr gyflawn o bell ffordd, ac nid oedd hynny’n fwriad. Os ydych chi eisiau dod o hyd i ragor o lyfrau a gwybodaeth am y pwnc hwn ac angen unrhyw help gyda'ch ymchwil, cysylltwch â ni a #GofynILyfrgellydd.
This guide is also available in English.
Llun gan Pablo Valerio o Pixabay