Skip to Main Content

Defnyddio eich Chromebook: Hafen

Chromebook

Mae Chromebook yn liniadur bach sydd wedi’i fwriadu’n bennaf ar gyfer defnyddio apiau ar-lein a phori ar y rhyngrwyd.   Caead Chromebook gyda eicon     

Mae’n defnyddio system weithredu o’r enw Chrome OS sydd wedi’i chynllunio gan Google. 

Mae gwahanol weithgynhyrchwyr wedi cynhyrchu gwahanol galedwedd a all gynnal Chrome OS. 

Os ydych chi wedi derbyn eich Chromebook fel rhan o gynllun benthyciadau digidol NPTC, mae’n HP Chromebook 14a G5. Gallwch ddarllen am ei fanylion yma

Mae gan Chromebooks sawl mantais:            

  • maent yn ysgafn ac yn hawdd eu cludo
  • mae ganddynt nodweddion hygyrchedd mewnol gan gynnwys darllenydd sgrin
  • mae gan y batri oes ardderchog
  • mae'r bysellfwrdd a'r rhyngwyneb wedi'u symleiddio i sicrhau ei bod yn hawdd defnyddio’r rhyngrwyd arnynt 

Argraffu yn y coleg

Sut alla i anfon dogfen o fy Chromebook i beiriant argraffu yn y coleg?

Dylai eich Chromebook fod wedi lawrlwytho a gosod yn awtomatig yr ap Mobility Print

 

  • Pwyswch y botwm Everything           eicon MobilityPrint
  • Teipiwch Mobility Print
  • Tapiwch ar eicon yr ap i’w redeg
  • Ewch i’r ddogfen rydych am ei hargraffu
  • Argraffwch fel arfer – ond gwnewch yn siwr bod Print Queue wedi’i ddewis fel destination pan rydych yn anfon dogfen i’w hargraffu.

Destination (ble i argraffu)

Problemau cyfrinair...

Dw i wedi anghofio fy nghyfrinair coleg! Beth wna’ i?  Stick man pushing question mark

Anfonwch ebost i Wasanaethau T.G.

Google a Chromebooks

Cyflwyniad fideo i Chromebooks gan Google

Sylwch y dylech fewngofnodi i'ch Chromebook coleg gyda'ch cyfeirnod coleg a'ch cyfrinair, nid gyda'ch cyfrif Gmail. 

Cliciwch am help

Angen help i ddod o hyd i lyfrau a gwybodaeth? Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio'r llyfrgell, neu eisiau trefnu sgwrs gyda chynghorydd llyfrgell?  Cliciwch i Holi Llyfrgellydd neu e-bostiwch nilibraries@nptcgroup.ac.uk.  

Ask a librarian logo Welsh

NPTC Group of Colleges, Dŵr-y-Felin Road, Neath, SA10 7RF